Datganiad I'r Wasg
-
Rydyn ni’n well gyda’n gilydd felly ymunwch â ni ar gam nesaf ein sgwrs i roi siâp ar ddyfodol CPT22 Rhagfyr 2021
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn annog preswylwyr i gymryd rhan mewn helpu’r ardal i adfer ar ôl pandemig Coronafeirws drwy gymryd rhan yng ngham nesaf ei ymgyrch Dewch i Sgwrsio.
-
Cynllun lliniaru llifogydd Ystalyfera bron â chael ei gwblhau20 Rhagfyr 2021
Mae rhan bwysig o brosiect draenio gwerth £700,000 yn Ystalyfera a fydd yn lleihau’r perygl i drigolion Ystâd Farteg bellach wedi cael ei chwblhau.
-
Trydydd cam gwerth £9m o raglen welliannau’n cwblhau gwaith moderneiddio ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Tawe16 Rhagfyr 2021
Mae disgyblion a staff mewn ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Tawe ar fin symud i mewn i gyfleusterau newydd sbon gwerth £9m sy’n cynnwys neuadd gyngerdd, ffreutur a chegin, dosbarthiadau ychwanegol, canolfan gerddoriaeth a drama, a chaeau chwaraeon modern.
-
Gorsaf Waith estynedig newydd yn barod i helpu rhagor o bobl i mewn i waith13 Rhagfyr 2021
Mae estyniad mawr i’r Orsaf Waith a leolir ym Mhort Talbot, sy’n gaffaeliad pwysig yn yr ymgyrch i helpu pobl sy’n ceisio gwaith a hyfforddiant, wedi cael ei agor yn swyddogol gan Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Ted Latham, a’r Prif Weithredwr Karen Jones.
-
Cwblhau gwelliannau yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn10 Rhagfyr 2021
Mae disgyblion a staff yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn yn Llansawel yn elwa ar ôl i brosiect gwella ysgol gael ei gwblhau’n llwyddiannus, gan arwain at ddarparu dau ddosbarth newydd a chreu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg.
-
Mwy o le a lleoliad gofal plant newydd i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg Cyngor Castell-nedd Port Talbot07 Rhagfyr 2021
Mae disgyblion yn ysgol gynradd 3 –11 oed cyfrwng Cymraeg (YGG) Cwmllynfell, dan ofal Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn mwynhau mwy o le a chyfleusterau wedi’u moderneiddio ar ôl i brosiect adnewyddu gwerth £640,000 gael ei gwblhau’n llwyddiannus.
-
Y prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn helpu Castell-nedd Port Talbot i gwrdd â heriau’r cyfnod ar ôl Covid03 Rhagfyr 2021
Ysgolion newydd a rhai wedi’u hadnewyddu, ailddatblygiad mawr i ganol tref Castell-nedd, adeiladu canolfan dechnoleg a fydd yn hunan-bweru er mwyn denu swyddi newydd a buddsoddiad, a’r prosiect sydd bron â dod i ben ar Sinema’r Plaza ym Mhort Talbot.
- Cyntaf⠀
- Blaenorol⠀
- Tudalen 1
- ...
- Tudalen 52
- Tudalen 53 o 57
- Tudalen 54
- ...
- Tudalen 57
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf