Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Gwobrau Ymateb Covid y Maer – yr enillwyr
    25 Mawrth 2022

    Digwyddodd Gwobrau Ymateb i Covid Maer Castell-nedd Port Talbot ar dydd Iau Mawrth 24, yn harddwch bendigedig Orendy Parc Gwledig Margam.

  • Coed Ceirios Parc Margam i ddathlu perthynas â Japan sy’n blodeuo
    23 Mawrth 2022

    Cafodd chwe choeden geirios a ddaeth yn rhodd gan Japan eu plannu ym Mharc Gwledig Margam i ddathlu cyfeillgarwch parhaus rhwng y Deyrnas Unedig a Japan.

  • Agoriad swyddogol Cwrt Cruyff yn Ysgol Hendrefelin, Bryncoch
    23 Mawrth 2022

    Mae cwrt peli sydd wedi'i addasu'n arbennig i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, a ariennir yn rhannol gan gronfa a sefydlwyd gan y seren bêl-droed yr Iseldiroedd, Johan Cruyff, wedi'i agor yn swyddogol yn Ysgol Arbennig Ysgol Hendrelin ym Mryncoch, Castell-nedd.

  • Agoriad swyddogol un arall o Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Castell-nedd Port Talbot - Ysgol Gyfun Cefn Saeson
    18 Mawrth 2022

    Mae Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Rees, wedi agor yn swyddogol Ysgol Gyfun Cefn Saeson yng Nghimla, Castell-nedd, sy’n werth £29m.

  • Dros £4m ar gyfer ‘Gwella, Glanhau a Glasu’ cymunedau ledled Castell-nedd Port Talbot
    18 Mawrth 2022

    Mae trefi a phentrefi ar draws Castell-nedd Port Talbot yn mynd i elwa o werth £4.3m o welliannau i dwtio ac adfywio ardaloedd cyhoeddus mewn cymunedau lleol.

  • 17 Mawrth 2022

  • Cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi ymrwymiad ‘ymgyrchu teg’ yn yr etholiad
    16 Mawrth 2022

    Mae cynghorwyr ar draws y pleidiau gwleidyddol yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i gefnogi ‘ymgyrchu teg’ wrth i etholiadau’r cyngor ddynesu yng Nghymru ym mis Mai.

  • Plant ysgol Cilffriw yn dweud ‘Ugain yn Ddigon’ wrth i derfyn cyflymder newydd o 20mya gael ei gyflwyno
    16 Mawrth 2022

    Fe wnaeth disgyblion o Ysgol Gynradd Cilffriw yng Nghastell-nedd Port Talbot helpu i ddathlu lansio terfyn cyflymder newydd o 20mya yn y pentref heddiw (Mawrth 16) fel rhan o arbrawf gan Lywodraeth Cymru i leihau’r terfyn cyflymder cenedlaethol o 30mya i 20mya mewn ardaloedd preswyl.

  • Ymweliad Brenhinol â Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Castell-nedd Port Talbot
    14 Mawrth 2022

    Cafodd Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Castell-nedd Port Talbot ymweliad brenhinol yr wythnos hon (dydd Mercher, 9 Mawrth, 2022) pan ddaeth ei Huchelder Brenhinol Iarlles Wessex i gwrdd â rhieni ifanc, eu plant a staff sy’n rhan o’r Ddarpariaeth Rhieni Ifanc.

  • 11 Mawrth 2022