Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Gweithrediad aml-asiantaeth wedi'i gynnal i nodi cludwyr gwastraff anghyfreithlon gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
    14 Tachwedd 2022

    Derbyniodd dyn hysbysiad cosb penodedig o £300 mewn ymgyrch aml-asiantaeth i ddatgelu cludwyr gwastraff anghyfreithlon fu’n gyfrifol am niweidio’r amgylchedd drwy dipio’n anghyfreithlon.

  • Clymblaid Enfys y Cyngor yn trafod yr her ariannol gyda thrigolion wyneb yn wyneb
    09 Tachwedd 2022

    Bydd aelodau Clymblaid Enfys Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn trafod yr hyn y gallai'r amodau economaidd cythryblus presennol ei olygu i'r cyngor ac i wasanaethau'r cyngor gyda thrigolion wyneb yn wyneb.

  • Consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cyhoeddi cadeirydd i arwain ei gais
    09 Tachwedd 2022

    Mae partneriaid cais consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd wedi dewis y buddsoddwr llwyddiannus ym maes technoleg sydd â phrofiad o'r sector metelau a mwyngloddio, Roger Maggs MBE, yn gadeirydd.

  • Cyrchfan antur gwerth £250m i Gwm Afan gam yn nes
    08 Tachwedd 2022

    Mae cynlluniau ar gyfer cyrchfan antur gwerth £250m yng Nghwm Afan ger Port Talbot, gyda gwesty 50 ystafell wely, sba, bwyty, ardal i weld golygfa, 570 o lojys a llwybrau beicio a cherdded wedi cymryd cam mawr ymlaen.

  • Agor ceisiadau am le yn ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Nghastell-nedd
    08 Tachwedd 2022

    Mae hi bellach yn bosib gwneud cais i gael lle yn y dosbarth meithrin, i ddechrau ym mis Ionawr 2023, a’r derbyn, i ddechrau ym mis Medi 2023, mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yng Nghastell-nedd.

  • Arian ar gael i daclo tlodi bwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot
    07 Tachwedd 2022

    Gall grwpiau a sefydliadau cymunedol sy’n gweithredu â’r nod o gefnogi pobl sy’n cael trafferth dygymod â thlodi bwyd wneud ceisiadau ar lein o hyn ymlaen.

  • Cyngor yn ymuno â’r mudiad i greu gweithleoedd ble gall gofalwyr deimlo’n hyderus ledled Cymru
    03 Tachwedd 2022

    Mewn cam fydd yn cryfhau ymhellach ei safle fel cyflogwr cefnogol, mae Cyngor Castell-nedd wedi dod yn aelod o’r Employers for Carers heddiw ar ôl i Bwyllgor Personél y cyngor roi’u cymeradwyaeth ar 24 Hydref.

  • Anrhegu ‘Coeden y Coed’ brenhinol i Weithdy DOVE, Banwen
    31 Hydref 2022

    Mae Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mrs Louise Fleet wedi trosglwyddo gwaddol parhaus gofidiau amgylcheddol ei diweddar Fawrhydi y Frenhines Elizabeth ll i Weithdy Dove ym Manwen.

  • Arweinydd Cyngor yn croesawu cynnydd ar safle profi rheilffyrdd o safon fyd-eang gwerth £250m yn Onllwyn
    28 Hydref 2022

    Mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Stephen Hunt, wedi croesawu’r cynnydd sydd i’w weld yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) gwerth £250m pan ymwelodd â’r safle gyda Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru Vaughan Gething.

  • Arddangosfa Oriel Arwyr teimladwy’n cofio sut yr ymatebodd Castell-nedd Port Talbot i’r Rhyfel Byd Cyntaf
    27 Hydref 2022

    Aeth Elizabeth ‘Betsy’ Thomas, nyrs filwrol eofn o Flaendulais, a achubwyd o’r d?r ar ôl i’w llong drosglwyddo gael ei tharo gan dorpedo, ymlaen i ennill y Groes Goch Frenhinol am ei gwaith o drin milwyr a anafwyd.