Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Dechrau darparu’r Porthladd Rhydd Celtaidd – un o blith sawl blaenoriaeth i Glymblaid yr Enfys yn 2023/24
    27 Ebrill 2023

    Mae sefydlu cwmni a bwrdd buddsoddi i ddechrau darparu’r Porthladd Rhydd Celtaidd, sy’n addo creu 16,000 o swyddi yn ne orllewin Cymru dros y blynyddoedd nesaf, yn un o blith sawl blaenoriaeth allweddol i Glymblaid yr Enfys Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2023/24.

  • Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi mai Parc Gwledig Margam fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2025
    25 Ebrill 2023

    Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Orendy Parc Margam ddydd Llun 24 Ebrill 2023, cefnogodd gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr o bob cwr o Gastell-nedd Port Talbot wahoddiad i’r Urdd gynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025 ym Mharc Margam.

  • Gwario £2.4m er mwyn gallu defnyddio tai gwag Castell-nedd Port Talbot unwaith eto
    24 Ebrill 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn taclo ‘melltith’ tai anghyfannedd mewn cymoedd, pentrefi a threfi ledled y fwrdeistref sirol, drwy glustnodi cyfraniad o £240,000 i gynllun gwella tai gwag dan nawdd Llywodraeth Cymru.

  • Peiriannydd sydd wedi ymddeol yn mwynhau helpu eraill yn ei swydd ym maes gofal
    24 Ebrill 2023

    Symudodd Ronald Moffatt, sy’n 64 oed, i Gastell-nedd i ddechrau pennod newydd o’i fywyd.

  • Cyngor yn cofrestru gyda chynllun sy’n ei gwneud hi’n haws i staff wirfoddoli gyda Heddlu De Cymru
    24 Ebrill 2023

    Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw’r awdurdod lleol cyntaf yn ardal llu Heddlu De Cymru i gofrestru ar gyfer cynllun Plismona â Chymorth Cyflogwyr sy’n hybu niferoedd yr heddlu, gan beri fod cymunedau’n fwy diogel.

  • Cabinet yn pleidleisio i wrthod cynllun ad-drefnu ysgolion Cwm Tawe
    20 Ebrill 2023

    Mae aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi gwrthod cynnig i adeiladu ysgol cyfrwng Saesneg newydd ym Mhontardawe, a fyddai wedi cymryd lle tair ysgol gynradd yng Ngwm Tawe.

  • Ymgynghoriad ar Ddyfodol Castell Margam
    18 Ebrill 2023

    Gofynnir i bobl roi eu barn ar ffyrdd o ddefnyddio Castell Margam a'i adeiladau cysylltiedig yn y dyfodol mewn arddangosfa ryngweithiol a gaiff ei chynnal yn yr adeilad eiconig o ddydd Mercher 19 Ebrill tan ddydd Mercher 26 Ebrill 2023.

  • Amser penderfynu ynghylch chynllun ad-drefnu ysgolion Cwm Tawe
    12 Ebrill 2023

    Bydd penderfyniad ynghylch cynlluniau i agor ysgol cyfrwng Saesneg newydd ym Mhontardawe yn lle tair ysgol gynradd yng Nghwm Tawe yn cael ei wneud gan aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar 19 Ebrill 2023.

  • Cyfarwyddwr cwmni yn cael gorchymyn i dalu £9000 o iawndal a dedfryd ohiriedig am dwyll a dwyn
    05 Ebrill 2023

    Yn dilyn ymchwiliad gan adran Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot, mae Nicholas REES, sef cyfarwyddwr cwmni tirlunio o Resolfen o'r enw “Total Landscaping Solutions Ltd”, a fanteisiodd ar ddefnyddwyr agored i niwed ac a wnaeth honiadau anwir, wedi cael dedfryd o wyth mis o garchar, sydd wedi'i gohirio am ddwy flynedd, a gorchymyn i dalu £9000 o iawndal yn Llys y Goron Abertawe am droseddau yn ymwneud â thwyll a dwyn.

  • Creu ysgol carbon sero net addas i’r dyfodol yng Nghastell-nedd Port Talbot – gyda chymorth dylunio gan y disgyblion
    03 Ebrill 2023

    Mae ysgol carbon sero net mewn adeilad newydd – fel rhan o Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru – yn mynd i gael ei sefydli yng Nghastell-nedd Port Talbot.