Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Cyngor yn camu i mewn i helpu wrth i ddau wasanaeth bws hanfodol ddod i ben
    21 Gorffennaf 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi trefnu bod dau fws wennol rhad ac am ddim i bawb yn gweithredu fel ateb munud olaf dros dro ar ôl i gwmni trafnidiaeth ddileu dau wasanaeth bws hanfodol.

  • Gwaith cadwraeth treftadaeth Craig Gwladus i gael sylw ar raglen Coast and Country ar ITV
    19 Gorffennaf 2023

    Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn hynod falch o gyhoeddi y bydd Parc Gwledig Craig Gwladus, a leolir yng Nghil-ffriw, Castell-nedd, yn cael sylw cyn bo hir mewn pennod o gyfres boblogaidd ITV Coast and Country, a gyflwynir gan y cyflwynydd tywydd Ruth Dodsworth.

  • Baneri Gwyrdd yn Cyhwfan dros Barciau CnPT
    18 Gorffennaf 2023

    Mae nifer fawr o barciau a mannau gwyrdd ledled Castell-nedd Port Talbot wedi cyrraedd y safonau uchel y mae angen eu cyrraedd i chwifio'r Faner Werdd.

  • Pobl ifanc yn cael cyngor diogelwch pwysig gyda’r Criw Hanfodol
    18 Gorffennaf 2023

    Mae dros 1500 o ddisgyblion o bob cwr o Gastell-nedd Port Talbot wedi mynychu cyfres o weithdai gyda’r nod o ddatblygu sgiliau diogelwch hanfodol.

  • Y Cyngor yn mabwysiadu Strategaeth Ddigidol newydd arloesol i ategu'r gwaith o drawsnewid y ffordd y darperir gwasanaeth
    13 Gorffennaf 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo Strategaeth Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) newydd i sicrhau fod gwasanaethau’n cael eu darparu i breswylwyr gan ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.

  • Cyngor yn ennill Gwobr Arian o bwys y Weinyddiaeth Amddiffyn
    11 Gorffennaf 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill Gwobr Arian yng Nghynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) y Weinyddiaeth Amddiffyn – un o blith dim ond 17 cyflogwr mawr yng Nghymru i dderbyn y Wobr Arian eleni.

  • Parhewch i Sgwrsio – Gyda’n gilydd ni yw CnPT
    30 Mehefin 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynyddu’i ymdrechion o gasglu barn pobl ar y pethau sy’n fwyaf pwysig iddyn nhw, er mwyn iddyn nhw allu defnyddio’r adborth i sicrhau fod gwaith cynllunio at y dyfodol a gosod blaenoriaethau’r cyngor yn cyd-fynd â’r hyn sydd angen, a helpu i roi ffurf ar ein gwaith o wneud penderfyniadau ar adeg heriol.

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn edrych at ddyfodol trydanol gyda fflyd gynyddol o Gerbydau Trydan
    29 Mehefin 2023

    Dyma rai o blith cerbydau cynyddol Cyngor Castell-nedd Port Talbot o Gerbydau Trydan, gyda’r nod o wella’r amgylchedd a thorri costau tanwydd ym maes trafnidiaeth.

  • Datganiad Cyhoeddus: Ariannu Bysus
    27 Mehefin 2023

    Mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt, yn dweud ei bod hi’n “hollbwysig” bod Llywodraeth Cymru’n parhau i gynnal cyllid ar gyfer rhwydweithiau bysus lleol am fod rhai cwmnïau bysus yn canslo llwybrau gan adael cymunedau heb wasanaeth bws.

  • Ysgrifennydd Gwladol yn agor Canolfan Dechnoleg y Bae, canolfan ynni-gadarnhaol arobryn Castell-nedd Port Talbot
    23 Mehefin 2023

    Mae Canolfan Dechnoleg y Bae, y ganolfan ynni-gadarnhaol sydd wedi ennill gwobrau, ym Mharc Ynni Baglan, wedi cael ei hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS.