Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Cymeradwyo gwerth dros £4m o waith cynnal a chadw ar lwybrau a heolydd, cryfhau pontydd a gwaith arall ledled Castell-ne
    05 Ebrill 2024

    Mae cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot wedi rhoi’r golau gwyrdd i dros £4 miliwn o waith peirianneg priffyrdd, cynnal a chadw a gwaith arall ymhob rhan o’r fwrdeistref sirol.

  • Gwaith i Ehangu Sinema ac Uwchraddio Canolfan y Celfyddydau ym Mhontardawe yn Dechrau
    05 Ebrill 2024

    Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect i ehangu'r sinema a gwella cyfleusterau yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe.

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Cynnal digwyddiad 'Cefnogi Busnesau yn y Rhanbarth' yn Orendy Parc Margam
    02 Ebrill 2024

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd busnesau lleol i fynychu’r digwyddiad 'Cefnogi Busnesau Castell-nedd Port Talbot a’r Rhanbarth’ cyn bo hir, fydd yn digwydd yn yr Orendy, Parc Margam, Port Talbot ddydd Mawrth, Ebrill 9, o 13:45 tan 17:00.

  • Hysbysiad Cau Heol Dros Dro – A4069 Heol Aman, Brynaman Isaf
    28 Mawrth 2024

    Gan ddechrau o ddydd Mawrth 2 Ebrill 2024, bydd darn o ffordd ar gau dros dro (gweler map) ar ran o Heol Aman, yr A4069 ym Mrynaman Isaf, ar gyfer gwneud gwaith peirianneg sifil hanfodol gan yr Awdurdod Glo. Bydd y gwaith yn cymryd rhyw dair wythnos i’w gwblhau.

  • Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 27 Mawrth 2024
    27 Mawrth 2024

    Cafwyd pedwerydd cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 27 Mawrth 2024. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Tata Steel UK am eu prosiect datgarboneiddio, gan gynnwys cau’r poptai golosg ym Mhort Talbot a'u cynnig diswyddo gwirfoddol. Mae'r Bwrdd yn cydnabod y brys y mae angen i ni weithio arno.

  • Prif Weithredwr newydd, achos busnes a phresenoldeb digidol ar ei newydd wedd i’r Porthladd Rhydd Celtaidd
    25 Mawrth 2024

    Mae Luciana Ciubotariu wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr parhaol newydd y Porthladd Rhydd Celtaidd i sicrhau y bydd y prosiect ailddiwydiannu, datgarboneiddio ac adfywio hollbwysig hwn yn dwyn ffrwyth. Bydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Mai 2024.

  • Adran AD y Cyngor yn y ras i ennill tîm mewnol gorau, a dau aelod o staff yn cystadlu am statws ‘seren ar gynnydd’
    13 Mawrth 2024

    Mae adran Adnoddau Dynol Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael eu rhoi ar restr fer y Tîm Mewnol Gorau yng ngwobrau blynyddol Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) Cymru.

  • Dwy fenyw o Gastell-nedd Port Talbot fu’n datrys codau gan helpu i fyrhau’r Ail Ryfel Byd yn dathlu’u pen blwydd yn 100
    13 Mawrth 2024

    Mae dwy wraig fu’n gweithio fel datryswyr codau ym mhlasty hollol gyfrinachol Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi dathlu’u pen blwydd yn gant oed mewn parti ar y cyd ym Mhort Talbot.

  • Mae'n amser paratoi ar gyfer Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot 2024!
    08 Mawrth 2024

    Mae digwyddiad blynyddol Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod arwyr di-glod o bob cwr o CNPT sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau.

  • Cyllideb Castell-nedd Port Talbot 2024/25 wedi’i chymeradwyo i flaenoriaethu ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a’r amg
    07 Mawrth 2024

    MAE CYFARFOD LLAWN o Gyngor Castell-nedd Port Talbot, a gynhaliwyd ddydd Iau, 7 Mawrth, 2024, wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer cyllideb 2024/2025 y fwrdeistref sirol.