Datganiad I'r Wasg
-
Hysbysiad Cau Heol Dros Dro – A4069 Heol Aman, Brynaman Isaf28 Mawrth 2024
Gan ddechrau o ddydd Mawrth 2 Ebrill 2024, bydd darn o ffordd ar gau dros dro (gweler map) ar ran o Heol Aman, yr A4069 ym Mrynaman Isaf, ar gyfer gwneud gwaith peirianneg sifil hanfodol gan yr Awdurdod Glo. Bydd y gwaith yn cymryd rhyw dair wythnos i’w gwblhau.
-
Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 27 Mawrth 202427 Mawrth 2024
Cafwyd pedwerydd cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 27 Mawrth 2024. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Tata Steel UK am eu prosiect datgarboneiddio, gan gynnwys cau’r poptai golosg ym Mhort Talbot a'u cynnig diswyddo gwirfoddol. Mae'r Bwrdd yn cydnabod y brys y mae angen i ni weithio arno.
-
Prif Weithredwr newydd, achos busnes a phresenoldeb digidol ar ei newydd wedd i’r Porthladd Rhydd Celtaidd25 Mawrth 2024
Mae Luciana Ciubotariu wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr parhaol newydd y Porthladd Rhydd Celtaidd i sicrhau y bydd y prosiect ailddiwydiannu, datgarboneiddio ac adfywio hollbwysig hwn yn dwyn ffrwyth. Bydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Mai 2024.
-
Adran AD y Cyngor yn y ras i ennill tîm mewnol gorau, a dau aelod o staff yn cystadlu am statws ‘seren ar gynnydd’13 Mawrth 2024
Mae adran Adnoddau Dynol Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael eu rhoi ar restr fer y Tîm Mewnol Gorau yng ngwobrau blynyddol Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) Cymru.
-
Dwy fenyw o Gastell-nedd Port Talbot fu’n datrys codau gan helpu i fyrhau’r Ail Ryfel Byd yn dathlu’u pen blwydd yn 10013 Mawrth 2024
Mae dwy wraig fu’n gweithio fel datryswyr codau ym mhlasty hollol gyfrinachol Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi dathlu’u pen blwydd yn gant oed mewn parti ar y cyd ym Mhort Talbot.
-
Mae'n amser paratoi ar gyfer Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot 2024!08 Mawrth 2024
Mae digwyddiad blynyddol Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod arwyr di-glod o bob cwr o CNPT sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau.
-
Cyllideb Castell-nedd Port Talbot 2024/25 wedi’i chymeradwyo i flaenoriaethu ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a’r amg07 Mawrth 2024
MAE CYFARFOD LLAWN o Gyngor Castell-nedd Port Talbot, a gynhaliwyd ddydd Iau, 7 Mawrth, 2024, wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer cyllideb 2024/2025 y fwrdeistref sirol.
-
Sefydlu Gracie Jones yn Faer Ieuenctid newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot04 Mawrth 2024
Mae Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot Karen Jones wedi sefydlu Gracie Jones fel Maer Ieuenctid newydd y cyngor mewn seremoni a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot ar Ddydd Gŵyl Dewi 2024.
-
Sut y gallwn i gyd helpu natur i ffynnu yng Nghastell-nedd Port Talbot04 Mawrth 2024
Sefyllfa byd natur yng Nghastell-nedd Port Talbot a sut y gallwn i gyd helpu i'w gwella oedd y pwnc trafod mewn digwyddiad dan ei sang yn Neuadd Gwyn, Castell-nedd.
-
Gofyn i gynghorwyr gymeradwyo cyllideb sy’n gwarchod gwasanaethau hanfodol ar adeg heriol yn ariannol26 Chwefror 2024
Er gwaetha’r pwysau digynsail ar gyllidebau, a galwadau cynyddol ar wasanaethau, gobaith Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw gosod cyllideb ar gyfer 2024/25 fydd ddim yn arwain at golli swyddi a gwasanaethau i’r un graddau ag a welir mewn rhannau eraill o Gymru.
- Cyntaf⠀
- Blaenorol⠀
- Tudalen 1
- ...
- Tudalen 9
- Tudalen 10 o 21
- Tudalen 11
- ...
- Tudalen 21
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf