Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Y Maer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ethol maer newydd ar gyfer pob blwyddyn ddinesig.

Rôl y Maer yw bod yn llysgennad i’r ardal, gan gefnogi grwpiau cymunedol, gwirfoddol ac elusennol lleol trwy gydol y flwyddyn.

Y Maer ar gyfer 2024/25 yw’r Cynghorydd Matthew Crowley a’r Faeres yw Mrs Michelle Crowley

Dirprwy Faer Castell-nedd Port Talbot yw'r Cynghorydd Wayne Carpenter.

Elusennau’r Maer

Mae’r Cynghorydd Crowley wedi dewis Cronfa Gyffredinol Podiatreg Treforys a Chronfa Gyffredinol Nyrsys Ardal Castell-nedd Port Talbot i fod yn ddwy elusen iddo yn ystod ei gyfnod fel Maer.

Gyfrannu at Elusennau’r Maer

Digwyddiadau

Yn ogystal â chyflawni llawer o ddyletswyddau dinesig yn ystod y flwyddyn, cadeirio cyfarfodydd y cyngor llawn a mynychu digwyddiadau blynyddol, mae’r Maer hefyd yn ymwneud â rhaglen o ddigwyddiadau sy’n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o’r holl waith da sy’n cael ei wneud ar draws y fwrdeistref sirol a/neu godi arian am elusennau’r Maer.

Facebook

Am yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ac elusennau’r Maer, gallwch ddilyn y Maer ar Facebook 

Maer Cynghorydd Mathew Crowley Maer Cynghorydd Mathew Crowley