Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ymuno â’r Panel Dinasyddion CnPT

Mae’r ffurflen ar lein hon ar gyfer ymuno â’r Panel Dinasyddion.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwerthfawrogi barn holl breswylwyr y fwrdeistref sirol, a hoffent iddynt allu cyfrannu at ddatblygu polisi a gwasanaethau. Bydd y Panel Dinasyddion yn ei gwneud hi'n haws i'n trigolion roi adborth i ni ar ein gwaith a chyfrannu at ein gwaith gwneud penderfyniadau'n gynnar iawn yn y broses.

Cymhwysedd

Gallwch ymuno â’r Panel Dinasyddion os ydych chi:

  • dros 16 oed
  • yn byw ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Fel aelod o’r Panel Dinasyddion, byddwch yn derbyn negeseuon e-bost pan wahoddir chi i gymryd rhan mewn arolygon ar lein. Fydd dim mwy na 12 arolwg y flwyddyn, ar amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar bobl a gwasanaethau ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Bydd angen i aelodau’r panel ddarparu rhai manylion personol wrth ymuno, er mwyn adnabod nodweddion cymunedol.