Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Niwsans sŵn

Darganfyddwch beth i'w wneud os oes gennych gŵyn sŵn a pha gamau y gallwch eu cymryd.

Sŵn y gallwn ymdrin ag ef

Y mathau o sŵn rydym yn derbyn y mwyaf o gwynion amdanynt yw:
  • cŵn yn cyfarth
  • larymau lladron
  • larymau car (pan yn llonydd)
  • stereos car (pan yn llonydd)
  • adeiladu a dymchwel
  • adloniant
  • ffatrïoedd / safleoedd diwydiannol
  • cerddoriaeth uchel
  • anghydfod rhwng cymdogion

Sŵn na allwn ymdrin ag ef

Y mathau o sŵn na allwn ymdrin  nhw yw:
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • awyrennau milwrol
  • awyrennau cludo teithwyr
  • gweiddi a churo drysau
  • traffig

Rhoi gwybod am niwsans sŵn

Bydd angen i chi roi:

  • eich new
  • eich cyfeiriad
  • enw o'r person sy'n achosi'r broblem (os ydych chi'n ei wybod)
  • cyfeiriad y person sy'n achosi'r broblem

Beth fydd yn digwydd nesaf

Ar ôl rhoi gwybod am eich cwyn sŵn byddwn yn:

  1. ysgrifennu atoch i gadarnhau derbyn eich cwyn
  2. cynnwys taflen dyddiadur i chi ei llenwi
  3. gofyn i chi gadw cofnod o'r sŵn dros ddwy i dair wythnos
  4. angen i chi anfon y taflenni yn ôl atom er mwyn i swyddog eu harchwilio
  5. ymchwilio ymhellach i'ch cwyn os credwn fod problem sŵn go iawn
  6. ymweld â'ch cartref i drafod y broblem gyda chi

Cysylltiadau defnyddiol