Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Newyddion diweddaraf

I ddilyn hynt y Cynllun Datblygu Lleol, ewch i’n tudalen Ymgynghori

Ymgynghori anffurfiol ar y Materion Allweddol, y Weledigaeth a’r Amcanion, Opsiynau Twf ac Opsiynau Gofodol

Fel rhan o’r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer y CDLlA, rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad anffurfiol ar ein Materion allweddol, ein Gweledigaeth a’n Hamcanion (gan amlygu’r prif faterion mae’r awdurdod yn eu hwynebu); yr Opsiynau Twf posibl sydd ar gael i ni (sy’n nodi faint o dai a swyddi mae arnon ni eu hangen) a’r Opsiynau Gofodol posibl ar ein cyfer (lle byddwn ni’n tyfu) ar gyfer holl gyfnod y cynllun, sef 2023 – 2038.

Mae’r ddogfen Ymgynghori ar gael i’w gweld drwy’r Porth Ymgynghori yn: https://neath-porttalbot-consult.objective.co.uk/kse. Byddai'n well gennym i sylwadau gael eu cyflwyno'n uniongyrchol ar-lein gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno sylw. Bydd copïau caled o'r papur ymgynghori hefyd ar gael yn y Quays, Canolfan Ddinesig Castell-nedd a Chanolfan Ddinesig Port Talbot.

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn o hanner dydd 14 Mai 2024 a bydd yn dod i ben am ganol nos ar 5 Mehefin 2024.

Bydd sylwadau a ddaw i law yn ystod y cyfnod ymgynghori yn helpu i lywio Strategaeth a Ffafrir y CDLlA.

Papur Ymgynhorol PDF 

Galwad am Safleoedd Ymgeisiol 2023 – wedi cae

Mae'r alwad am safleoedd ymgeisiol 2023 oedd yn rhedeg o 6 Tachwedd tan 18 Rhagfyr 2023 bellach wedi cau. I gael rhagor o wybodaeth am y camau nesaf, ewch i'r dudalen Safleoedd Ymgeisiol.