Datganiad I'r Wasg
-
Clymblaid Enfys y Cyngor yn trafod yr her ariannol gyda thrigolion wyneb yn wyneb09 Tachwedd 2022
Bydd aelodau Clymblaid Enfys Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn trafod yr hyn y gallai'r amodau economaidd cythryblus presennol ei olygu i'r cyngor ac i wasanaethau'r cyngor gyda thrigolion wyneb yn wyneb.
-
Consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cyhoeddi cadeirydd i arwain ei gais09 Tachwedd 2022
Mae partneriaid cais consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd wedi dewis y buddsoddwr llwyddiannus ym maes technoleg sydd â phrofiad o'r sector metelau a mwyngloddio, Roger Maggs MBE, yn gadeirydd.
-
Cyrchfan antur gwerth £250m i Gwm Afan gam yn nes08 Tachwedd 2022
Mae cynlluniau ar gyfer cyrchfan antur gwerth £250m yng Nghwm Afan ger Port Talbot, gyda gwesty 50 ystafell wely, sba, bwyty, ardal i weld golygfa, 570 o lojys a llwybrau beicio a cherdded wedi cymryd cam mawr ymlaen.
-
Agor ceisiadau am le yn ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Nghastell-nedd08 Tachwedd 2022
Mae hi bellach yn bosib gwneud cais i gael lle yn y dosbarth meithrin, i ddechrau ym mis Ionawr 2023, a’r derbyn, i ddechrau ym mis Medi 2023, mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yng Nghastell-nedd.
-
Arian ar gael i daclo tlodi bwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot07 Tachwedd 2022
Gall grwpiau a sefydliadau cymunedol sy’n gweithredu â’r nod o gefnogi pobl sy’n cael trafferth dygymod â thlodi bwyd wneud ceisiadau ar lein o hyn ymlaen.
-
Cyngor yn ymuno â’r mudiad i greu gweithleoedd ble gall gofalwyr deimlo’n hyderus ledled Cymru03 Tachwedd 2022
Mewn cam fydd yn cryfhau ymhellach ei safle fel cyflogwr cefnogol, mae Cyngor Castell-nedd wedi dod yn aelod o’r Employers for Carers heddiw ar ôl i Bwyllgor Personél y cyngor roi’u cymeradwyaeth ar 24 Hydref.
-
Anrhegu ‘Coeden y Coed’ brenhinol i Weithdy DOVE, Banwen31 Hydref 2022
Mae Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mrs Louise Fleet wedi trosglwyddo gwaddol parhaus gofidiau amgylcheddol ei diweddar Fawrhydi y Frenhines Elizabeth ll i Weithdy Dove ym Manwen.
-
Arweinydd Cyngor yn croesawu cynnydd ar safle profi rheilffyrdd o safon fyd-eang gwerth £250m yn Onllwyn28 Hydref 2022
Mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Stephen Hunt, wedi croesawu’r cynnydd sydd i’w weld yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) gwerth £250m pan ymwelodd â’r safle gyda Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru Vaughan Gething.
-
Arddangosfa Oriel Arwyr teimladwy’n cofio sut yr ymatebodd Castell-nedd Port Talbot i’r Rhyfel Byd Cyntaf27 Hydref 2022
Aeth Elizabeth ‘Betsy’ Thomas, nyrs filwrol eofn o Flaendulais, a achubwyd o’r d?r ar ôl i’w llong drosglwyddo gael ei tharo gan dorpedo, ymlaen i ennill y Groes Goch Frenhinol am ei gwaith o drin milwyr a anafwyd.
-
Dyfarniad Adolygiad Barnwrol ar gynllun ad-drefu Ysgolion Cwm Tawe – Datganiad gan y Cyngor27 Hydref 2022
Ar 20 Hydref 2021, ar ôl cynnal proses ymgynghori drylwyr, cymeradwyodd Cabinet blaenorol y cyngor y cynnig i sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg i blant 3-11 oed gyda Chanolfan Cymorth Dysgu ar gyfer 16 o ddisgyblion a oedd wedi cael datganiad o anghenion addysgol arbennig, mewn adeiladau newydd sbon a fyddai’n gartref i ddisgyblion o ddalgylch ysgolion cynradd yr Allt-wen, Godre’r-graig a Llan-giwg, gyda phob un o’r ysgolion yn cau yn 2024.
- Cyntaf⠀
- Blaenorol⠀
- Tudalen 1
- ...
- Tudalen 37
- Tudalen 38 o 58
- Tudalen 39
- ...
- Tudalen 58
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf