Datganiad I'r Wasg
-
Cyllid ar gael i daclo tlodi bwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot17 Hydref 2023
Bellach, gall grwpiau cymunedol a sefydliadau sy’n bodoli â’r nod o gefnogi pobl sy’n cael trafferth gyda thlodi bwyd, ac atal tlodi bwyd gyflwyno ceisiadau ar lein.
-
Anrhydeddu Cyngor Castell-nedd Port Talbot am ei ymrwymiad i gydraddoldeb yng ngwobrau olaf Chwarae Teg17 Hydref 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill gwobr am ei ymrwymiad i gydraddoldeb yn y seremoni wobrwyo olaf i’w chynnal gan yr elusen cydraddoldeb rhyw Chwarae Teg.
-
Gweinidog yn agor cyfleusterau newydd mewn ysgol i gryfhau addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Tawe16 Hydref 2023
Cafodd dosbarthiadau newydd a Chanolfan Drochi’r Iaith Gymraeg eu hagor yn swyddogol ddydd Gwener 13 Hydref 2023 yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe Gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles AS.
-
Acrobatiaid awyr mewn perygl – sut mae rhan o Bontardawe am ddod yn hafan ddiogel i wenoliaid duon13 Hydref 2023
Mae’i sgrech wedi arwyddo dyfodiad yr haf i ni ers miloedd o flynyddoedd, ond bellach mae’r wennol ddu (swift) hynafol mewn perygl o ddiflannu o’n hawyr.
-
Cyngor yn Galw am Farn ar Strategaeth Dreftadaeth Ddrafft13 Hydref 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gofyn i bobl leisio’u barn am ei strategaeth Dreftadaeth ddrafft sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth am dreftadaeth eithriadol yr ardal, gan gynnwys ei phwysigrwydd economaidd, amgylcheddol a llesiannol.
-
Cynnwys Castell-nedd Port Talbot mewn ymrwymiad gwerth £200m a lansiwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol11 Hydref 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi croesawu cyhoeddiad gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a fydd yn gweld y fwrdeistref sirol yn elwa o ran o £200m i helpu i drawsnewid treftadaeth yr ardal drwy fenter newydd Lleoedd Treftadaeth.
-
Dyn yn talu pris mawr ar ôl canfod gweddillion fferm ganabis wedi’i dympio mewn coedwig11 Hydref 2023
Mae ymchwiliad i olion fferm ganabis a ddympiwyd ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru ger Blaengwynfi, yn Nyffryn Afan ger Port Talbot, wedi costio bron i £2,000 i ddyn o Gaerffili.
-
Y Cyngor mewn trafodaethau gyda The Range ynglŷn â'r posibilrwydd o feddiannu hen siop Wilko Castell-nedd06 Hydref 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi ei fod mewn trafodaethau manwl gyda'r manwerthwr nwyddau cartref, gardd a hamdden mawr The Range ynglŷn â chymryd les hen siop Wilko yng nghanol tref Castell-nedd, sydd bellach yn wag.
-
Arweinydd y Cyngor yn rhoi barn ar fargen ddur gwerth miliynau o bunnoedd a therfyn cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru05 Hydref 2023
Mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt, wedi mynegi ei farn yng nghyfarfod misol yr awdurdod ar 4 Hydref, 2023, ar gytundeb Llywodraeth y DU gyda Tata Steel UK i ddatgarboneiddio ei ffatri ym Mhort Talbot a therfyn cyflymder 20 mya dadleuol Llywodraeth Cymru.
-
Adolygiad Rhanbarth Pleidleisio ar y gweill05 Hydref 2023
Ar hyn o bryd mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnal adolygiad o'i holl Ardaloedd Pleidleisio, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio yn ardal y Fwrdeistref Sirol.
- Cyntaf⠀
- Blaenorol⠀
- Tudalen 1
- ...
- Tudalen 20
- Tudalen 21 o 58
- Tudalen 22
- ...
- Tudalen 58
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf