Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Sachau gwyrdd gwastraff gardd

Darganfyddwch pa eitemau y gallwch eu rhoi yn eich bag ailgylchu gwastraff gardd. Cesglir y rhain bob pythefnos fel rhan o'ch wythnos las.

Yn cynnwys
  • Gwair, chwyn a dail
  • Blodau - wedi'u u torri a chynnwys basgedi crog a phlanhigion mewn potiau
  • Tociadau llwyni, rhisgl, brigau, canghennau (llai na 5cm o led)
  • Blawd llif a darnau bach o bren
Peidiwch â chynnwys
  • Pridd, compost, rwbel, pren neu gerrig
  • Chwyn ymledol megis Canclwm Japan, ffromlys chwarennog a'r benfelen
  • Boncyffion coed neu ganghennau trwchus
  • Gwelyau anifeiliaid

Archebu offer ailgylchu

Mae Llywodraeth Cymru’n argymell bod awdurdodau lleol yn codi tâl ar gyfer casglu gwastraff gardd. Gan nad yw’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn un gorfodol, gall awdurdodau lleol godi tâl i dalu costau’r gwasanaeth.

Yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, gellir prynu bagiau ychwanegol neu newydd am gost gymorthdaledig o £1.75 y bag. Mae'r tâl hwn yn berthnasol i bob preswylydd y mae angen bagiau ychwanegol arno, hyd yn oes os ydynt wedi cael eu dwyn neu wedi mynd ar goll.