Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Casgliadau cewynnau untro a gwastraff anymataliaeth

Pam rydym ni’n cyflwyno’r cynllun hwn

Mae gan Gymru'r gyfradd ailgylchu fwyaf yn y DU, fodd bynnag, os ydym i gyflawni targedau ailgylchu statudol heriol Llywodraeth Cymru -  ac osgoi dirwyon - mae angen i ni ailgylchu mwy fyth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob Cyngor yng Nghymru gasglu cewynnau a choladu gwybodaeth am dunelledd yn eu hardaloedd. Mae hyn gyda'r dyhead tymor hir o gael cyfleuster ailbrosesu Cymru Gyfan dynodedig fel rhan o greu economi gylchol. Yn y cyfnod dros dro, gellir anfon y cewynnau i gyfleusterau gwastraff i ynni os na all cyfleusterau presennol yn y DU eu cymryd.

Caiff y cynllun ei gyflwyno i annog ein preswylwyr i gymryd rhan yn y gwasanaeth ac er mwyn i'r cyngor gadarnhau sawl tunelledd y gallwn ei gasglu. Ni fydd ein preswylwyr yn gallu gwneud cais mwyach am Sticeri Eithrio Gwastraff Ochr ar gyfer cewynnau a Chynnyrch Hylendid Amsugnol (CHA).

Caiff rholiau o 52 o sachau porffor eu rhoi i chi y dylid eu defnyddio yn lle ar gyfer y math hwn o wastraff. Gellir archebu rholiau ychwanegol pan fydd eu hangen.

Byddwn yn ddiolchgar am adborth gan bob preswylydd. Gellir anfon sylwadau am y cynllun i recycle4npt@npt.gov.uk i'w hystyried fel rhan o ganlyniad y prawf.

Sticeri Eithrio

Nid ydym yn atal y defnydd o sticeri eithrio. Bydd y Cyngor yn parhau â'i gynllun Eithrio Gwastraff Ochr ar gyfer gwastraff arall na ellir ei ailgylchu ar yr amod bod aelwydydd yn ailgylchu popeth y gallant.

Gall preswylwyr barhau i ddefnyddio'u sticeri eithrio nes iddynt dderbyn eu sachau porffor.

Os ydych yn derbyn eithriadau ar gyfer eitemau ar wahân i gewynnau e.e. gwastraff anifeiliaid anwes, gallwch gyflwyno cais arall am sticeri eithrio unwaith y bydd eich 12 mis wedi dod i ben.

Cymhwysedd

Rydych chi’n gymwys i dderbyn y casgliadau os oes gan eich aelwyd unrhyw rai o’r eitemau canlynol i’w gwaredu:

EITEMAU DERBYNIOL
  • Cewynnau tafladwy gan gynnwys sachau cewynnau a hancesi sychu
  • Padiau anymataliaeth oedolion
  • Cynfasau gwely amsugnol
  • Ffedogau tafladwy
  • Bagiau colostomi/stoma a chathetrau
  • Menig plastig

Os ydych yn warchodwr plant/feithrinfa gofrestredig yna bydd eich casgliadau'n rhan o'n Gwasanaeth Gwastraff Masnachol.

Eitemau na fyddwn yn eu casglu

Ni chaiff yr eitemau canlynol eu casglu fel rhan o'r cynllun Dylid parhau i roi'r rhain yn eich bin/sachau du.

PEIDIWCH Â CHYNNWYS
  • Cynnyrch hylendid benywaidd (e.e. tyweli misglwyf, leinwyr a thamponau)
  • Gwasarn/gwastraff anifeiliaid anwes
  • Padiau cŵn bach
Ni chesglir unrhyw fagiau porffor a gyflwynir sy’n cynnwys yr eitemau hyn. Ni fydd sachau porffor sy'n cynnwys yr eitemau hyn yn cael eu casglu.

Sut mae’r casgliad yn gweithio

Cynhelir casgliadau bob pythefnos (yr un diwrnod â'ch casgliadau bin/sachau du). Drwy ddefnyddio sachau porffor yn lle biniau, mae ein cynllun peilot yn dod yn rhan o’n casgliadau sbwriel pythefnosol. Mae hyn yn darparu gwasanaeth ychwanegol cost isel, o'i gyferbynnu â chael rhagor o gerbydau a rhagor o griwiau.

Gellir cyflwyno'ch sach CHA borffor wrth ymyl eich bin/sachau du. Mae'r sachau porffor, pan gânt eu defnyddio'n gywir, yn cynnwys deunydd ailgylchadwy ac felly nid ydynt yn cyfrif tuag at gyfyngiad un bin/tair sach ddu'r cyngor.Does dim cyfyngiad i nifer y sachau porffor y gallwch eu cyflwyno i'w casglu ar yr amod nad yw'r sachau'n cynnwys eitemau gwastraff eraill.

Fel rhan o'n prawf, mae gennym ddwy lori gasglu arbennig. Mae'n bosib y bydd eich lori casglu gwastraff arferol yn casglu'ch sachau porffor os nad yw'r cerbyd prawf yn eich ardal chi.

Os ydych yn cael casgliad â chymorth ar gyfer eich gwastraff ac ailgylchu, byddwch yn derbyn casgliad â chymorth ar gyfer CHA yn awtomatig.

Biniau storio

Rydym wedi cyflwyno biniau bach ar gyfer storio'r sachau porffor rhwng casgliadau. Bydd hyn yn golygu ei bod yn haws cael gafael ar y sachau, a gellir gadael y sachau heb eu clymu nes bod y bin yn llawn.

Bydd y biniau hyn yn las ac maent at ddibenion storio'n unig. Ni fyddwn yn casglu o'r biniau storio hyn, felly rhowch eich sachau porffor yn unig allan i'w casglu.

Mae'r biniau am ddim i breswylwyr sy'n cymryd rhan yn y cynllun Casglu Cewynnau a CHA a dylid eu defnyddio ar gyfer gwastraff cewynnau a CHA yn unig. Os dywedir wrthym fod y cynllun yn cael ei gamddefnyddio, byddwn yn cael gwared ar y bin.

Os darganfyddir bod unrhyw aelwyd yn defnyddio'r sachau porffor ar gyfer gwastraff cyffredinol, bydd un o'n Swyddogion Ymwybyddiaeth a Chydymffurfio ag Ailgylchu yn ymweld â hi a gallai hyn arwain at dynnu'r aelwyd o'r gwasanaeth casglu ar gyfer CHA.

Archebu Bagiau

SYLWER: Os ydych chi'n derbyn gwasanaeth casglu hylendid wythnosol y Cyngor ar hyn o bryd ni fydd unrhyw newid i'ch gwasanaeth ac nid oes angen i chi archebu bagiau porffor.