Datganiad I'r Wasg
Yr Arweinydd yn croesawu ymweliad llwyddiannus Clwb Criced Morgannwg â Maes y Gnoll yng Nghastell-nedd
08 Awst 2024
Mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt, wedi croesawu ymweliad Clwb Criced Morgannwg â Chastell-nedd ar gyfer dwy gêm undydd a ddenodd filoedd o ymwelwyr.
Defnyddiodd Morgannwg Faes y Gnoll, sef cartref Clwb Criced Castell-nedd, i gynnal dwy gêm yng Nghwpan Undydd Metro Bank yn erbyn Notts Outlaws a Sussex Sharks ddydd Mercher 31 Gorffennaf a dydd Gwener 2 Awst.
Hon oedd y drydedd flwyddyn yn olynol i Glwb Morgannwg ddefnyddio lleoliad poblogaidd Maes y Gnoll i chwarae criced dosbarth cyntaf.
Dywedodd y Cyngh. Hunt: “Roedd yn bleser gennym groesawu Morgannwg yn ôl i Faes y Gnoll unwaith eto. Mae gemau Morgannwg yn rhoi Castell-nedd ar y map ac yn gymorth mawr i ddenu torfeydd i ganol Castell-nedd.
“Hoffwn ddiolch i Glwb Criced Morgannwg am ddewis Maes y Gnoll fel lleoliad a hoffwn hefyd ddiolch i'r tîm yng Nghlwb Criced Castell-nedd am gynnal y safonau uchel sy'n golygu bod modd chwarae criced dosbarth cyntaf yma.”
Roedd y gemau, a chwaraewyd mewn haul tanbaid, yn llwyddiant i Glwb Morgannwg wrth i'r tîm o Gymru guro Notts Outlaws o wyth wiced a Sussex Sharks o un wiced.
Cafodd Clwb Criced Castell-nedd ei ffurfio yn 1848 ac, o 1871 ymlaen, cafodd Maes y Gnoll yng Nghastell-nedd ei rannu â Chlwb Rygbi Castell-nedd.
Chwaraeodd Morgannwg yno am y tro cyntaf yn y 1930au ac, yn fuan iawn, daeth yn lleoliad poblogaidd ymhlith y chwaraewyr a'r cefnogwyr.
Mae'r cofnod cyntaf o griced yng Nghastell-nedd yn dyddio'n ôl i ganol yr 1840au ac, yn 1848, ffurfiwyd clwb criced, a oedd yn chwarae ar Faes y Gnoll. Cynhaliwyd gêm ddosbarth cyntaf ar y maes am y tro cyntaf yn 1934 yn erbyn Essex ac, yn dilyn hynny, cynhaliodd Morgannwg gyfres o gemau blynyddol ar Faes y Gnoll tan 1973.