Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Gwaith gwerth £12m ar fin dechrau ar welliannau mawr ym Mharc Gwledig hanesyddol Ystâd Gnoll, Castell-nedd

MAE GWAITH AR FIN DECHRAU ar brosiect uchelgeisiol sy’n werth £12m i foderneiddio cyfleusterau i ymwelwyr ac adfer nodweddion hanesyddol yn atyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Parc Gwledig Ystâd Gnoll, sydd mor agos at galon cynifer.

Sut bydd yn edrych...

Cynlluniwyd y gwaith, y rhagwelir y bydd hi’n cymryd tua blwyddyn i’w gwblhau, i wella cyfleusterau yn y parc ar gyfer ymwelwyr rheolaidd, amlygu arwyddocâd hanesyddol y parc, a denu ymwelwyr o fannau pellach i ffwrdd.

Bydd yr arian ar gyfer y gwaith yn dod o gyllid Llywodraeth Prydain ar gyfer Cwm Nedd, a bydd yn talu am:

  • Dymchwel y ganolfan ymwelwyr bresennol sy’n dangos ei oed
  • Canolfan ymwelwyr newydd sbon, deulawr, hollol hygyrch, fydd yn cynnwys caffi modern, balcon bendigedig fydd yn wynebu tua’r de gan roi golygfeydd dros y llyn; cyfleusterau cyfarfod, digwyddiadau a chynadledda, ac ardal chwarae meddal benodol i blant.
  • Cyflwyno maes chwarae antur cyffrous newydd yn y goedwig a gynlluniwyd i fod yn atyniad cyrchfan i blant a theuluoedd.
  • Atgyweirio bwthyn y pwll dŵr er mwyn dechrau’i ailddefnyddio
  • Gwaith sefydlu a thrwsio ar adfeilion Tŷ Gnoll.
  • Gwaith adfer ar Raeadrau syfrdanol a hanesyddol y parc.
  • Gosod gwybodaeth a dehongliadau ar draws y safle fydd yn rhoi manylion am hanes y parc a’i bwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol i’r ardal.
  • Estyniadau i’r ardal ble ceir llwybrau hamddena a cherdded drwy gyfrwng pont newydd fydd yn cysylltu’r parc â Fferm Brynau gerllaw, hafan i fywyd gwyllt ar 57 hectar o dir Coed Cadw a leolir yn ddelfrydol ar fryniau tonnog wrth ochr Parc Gwledig Ystâd Gnoll.
  • Bydd y prosiect trawsnewidiol hwn yn dechrau ddiwedd y mis hwn / ddechrau Awst a bydd hefyd yn cynnwys gwaith tirlunio, creu maes parcio a gwelliannau eraill.

Tra bo’r gwaith yn digwydd, bydd cyfleusterau arlwyo a thoiledau dros dro ar gael i groesawu ymwelwyr. Bydd digwyddiad Parkrun poblogaidd a gynhelir yn y parc ar Sadyrnau’n parhau i ddigwydd gan ddefnyddio llwybr amgen, a gosodir llwybr dros dro i sicrhau y gall cerddwyr barhau i fwynhau llwybr cylchol o gwmpas llyn deniadol y parc.

Bydd Bwthyn y Pwll yn cael ei uwchraddio’n sylweddol, er mwyn darparu llety i ymwelwyr a fydd yn gallu cysgu hyd at chwe pherson dros nos mewn tair ystafell wely ddwbl chwaethus â golygfeydd trawiadol dros y parc.

Yn ôl y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae gan Barc Gwledig Ystâd Gnoll arwyddocâd hanesyddol enfawr i Gastell-nedd, ac yntau wedi’i gomisiynu gan deulu entrepreneuraidd Mackworth yn y 1770au.

“Daeth yn ffefryn mawr gan gerddwyr, teuluoedd a llawer mwy, a bydd y prosiect hwn yn cynnwys ychwanegiadau o ansawdd uchel, gyda’r nod o wella cyfleusterau y gall ein cymuned leol eu mwynhau, a denu mwy o ymwelwyr er budd i’r economi leol.

“Rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau fod cyfleusterau dros dro fel arlwyo a thoiledau ar gael, er mwyn galluogi pobl i barhau i ddod i’r parc yn ystod cyfnod y gwaith, i fwynhau’r llwybrau cerdded llesol a’r golygfeydd ymlaciol.

“Ar ddiwedd y prosiect, bydd ein cymunedau’n gallu mwynhau Parc Gwledig Ystâd Gnoll ar ei newydd wedd, gyda gwell cyfleusterau, mwy modern, fydd yn rhoi bywyd newydd i’r perl lleol hwn.”

hannwch hyn ar:
Y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Lles (chwith) yn y llun ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll gydag Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Steve Hunt