Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Joey Pickard o Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi’i enwi’n Ecolegydd Llywodraeth Leol Ifanc y Flwyddyn y DU

Mae ecolegydd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill gwobr nodedig am ei waith pwysig ar brosiect Mawndiroedd Coll De Cymru

Joey Pickard

Enillodd Joey Pickard wobr Ecolegydd Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Ecoleg Llywodraeth Leol, a gynhelir gan Verna (sy’n cynhyrchu meddalwedd i gefnogi penderfyniadau ynghylch defnyddio tir) a Chymdeithas Ecolegwyr Llywodraeth Leol.

Mae’r gwobrau’n dathlu effaith gadarnhaol ecolegwyr mewn llywodraeth leol.

Roedd y panel beirniaid annibynnol yn cynnwys arweinwyr ar draws sbectrwm eang o waith ecolegol. Dyma’r beirniaid:

  • Dr Helen Fearnley, Adran Amgylcheddol, Defra (Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU).
  • Liz Milne, Cadeirydd, Cymdeithas Ecolegwyr Llywodraeth Leol.
  • Richard Blyth, Pennaeth Polisi, Ymarfer ac Ymchwil, Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefi.
  • Sally Hayns, Prif Weithredwr, Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli Amgylcheddol; a
  • Dr Tim Hill, Prif Wyddonydd, Natural England.

Cynlluniwyd prosiect Mawndiroedd Coll De Cymru, a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, i adfer tirwedd ucheldirol cymoedd Afan a Rhondda, ac ar yr un pryd helpu cymunedau lleol i ddarganfod a mwynhau’r dirwedd ddramatig sydd ar garreg eu drws.

Mae’r ecolegydd Joey wedi cyd-gynllunio a darparu gwaith adfer mawndiroedd yng nghymoedd Afan a Rhondda fel rhan o’i waith ar y prosiect ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae e hefyd yn arwain teithiau cerdded i aelodau’r gymuned leol, i’w helpu i ddysgu mwy am ecoleg ac i ymgysylltu â’u hamgylchedd lleol.

Dywedodd Rebecca Sharp, Arweinydd Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae Joey'n yn ased amhrisiadwy. Er gwaetha’r ffaith fod ganddo eisoes wybodaeth eithriadol am ecoleg mawndiroedd, dyw e byth yn rhoi’r gorau i fod eisiau dysgu mwy, gan sicrhau fod ein prosiect ar flaen y gad o ran adfer mawndiroedd.”

Ychwanegodd Joey: “Mae popeth yr ydw i wedi’i gyflawni drwy gyfrwng fy ngwaith fan hyn wedi bo do ganlyniad i gydweithio â chydweithwyr rhagorol, a phartneriaeth gefnogol o sefydliadau.”

Enillwyr eraill y gwobrau oedd Ana Coxixo, Uwch-ecolegydd, Cyngor Hertfordshire, (Ecolegydd Llywodraeth Leol y Flwyddyn) am waith ar brosiect gwlyptiroedd o bwys, ac yn ail yng nghystadleuaeth Ecolegydd y Flwyddyn oedd Annabel Foskett, Swyddog Cadwraeth Natur gyda Chyngor Haringey, sy’n gwarchod coedwigoedd trefol.

Meddai’r Cynghorydd Wyndham Griffiths, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd (y mae’i bortffolio’n cynnwys bioamrywiaeth): “Llongyfarchiadau i Joey am ennill y wobr genedlaethol hon.

“Drwy adfer cynefinoedd a rheoli adnodd y Mawndiroedd Coll yn well, gwaith y mae Joey a’i gydweithwyr yn ei wneud, ein nod yw adfer y dirwedd anhygoel hon, creu argraff gadarnhaol ar newid hinsawdd, a chynyddu bioamrywiaeth yr ardal.

hannwch hyn ar: