Datganiad I'r Wasg
Yr Heddlu’n ymchwilio lladrad ‘ffiaidd’ placiau metel o Gofeb Ryfel Castell-nedd
Mae Heddlu De Cymru’n chwilio am ladron sydd wedi dwyn dau blac metel o’r Clwydi Coffa ger mynediad Parc Gwledig Ystâd Gnoll yng Nghastell-nedd.
Mae’r clwydi marmor a’r gyfres o blaciau sy’n ffurfio’n gofeb yn dwyn i gof bobl o’r ardal a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Mawr a’r Ail Ryfel Byd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Dyma drosedd ffiaidd – trosedd yn erbyn treftadaeth – ac un sy’n dangos difaterwch llwyr dros aberth yr aelodau lleol o’r lluoedd arfog a roddodd eu bywydau drosom yn y rhyfeloedd.
“Hoffem apelio ar unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am ddiflaniad y placiau hyn, neu unrhyw un a allai wybod ble maen nhw, i gysylltu â Heddlu De Cymru.”
Cymerwyd un o’r placiau ddydd Iau 18 Gorffennaf, a’r llall ddydd Sul 21 Gorffennaf 2013. Roedd y ddau blac wedi’u lleoli tua gwaelod y gofeb.
Gofynnir i unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus ger y Clwydi Coffa ar y dyddiadau hynny i gysylltu â’u gorsaf heddlu leol, neu i ffonio 101.