Datganiad I'r Wasg
Gwefan y Cyngor yn cyrraedd deg uchaf Prydain am hygyrchedd
MAE GWEFAN GORFFORAETHOL Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei gosod yn neg uchaf gwefannau cynghorau’r Deyrnas Unedig am hygyrchedd, a’r awdurdod uchaf yng Nghymru, yn ôl y ‘Silktide Accessibility Index’ annibynnol.
Mae Silktide yn llwyfan ar gyfer deall a gwella gwefannau mawr, sy’n gwerthuso hygyrchedd gwefannau ac yn rhoi sgôr iddynt ar sail y graddau y maen nhw’n cydymffurfio â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys (WCAG) a gydnabyddir ledled y byd.
Cydnabyddir y llwyfan hwn, a ddiweddarir yn gyson, fel safon ryngwladol, o ran esbonio sut i beri fod cynnwys ar y we yn fwy hygyrch i bobl, yn enwedig pobl ag anableddau.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu’r cyngor yn gweithio i adolygu a symud dros 2,800 tudalen o gynnwys, gan leihau faint o dudalennau sydd ar y safle drwyddi draw o 50%, drwy ddod â chynnwys sydd wedi dod i ddiwedd ei oes i ben, ar y cyd â meysydd gwasanaeth.
Mae’r wefan ar ei newydd wedd wedi’i chymhwyso i fod yn ddelfrydol ar gyfer dyfeisiadau symudol a llechen ddigidol, mewn ymateb i fewnwelediadau allweddol a gasglwyd gan ddata ymchwil oddi wrth ddefnyddwyr.
Ymysg manteision y wefan ar ei newydd wedd mae:
- Dyluniad newydd i’r wefan a phrofiad defnyddiwr newydd.
- Gwell profiad i breswylwyr.
- Llai o alw methiannus drwy ddarparu cynnwys sy’n canoli ar y defnyddiwr.
- Defnydd mwy chwimwth ar gyfer diweddaru’n gyflym.
Yn ôl y Cynghorydd Simon Knoyle, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol, y mae’i gylch gorchwyl yn cynnwys strategaeth ddigidol: “Mae ein staff Digidol wedi bod yn gweithio’n galed i drawsnewid golwg, teimlad a chynnwys gwefan gorfforaethol yr awdurdod, ac rydyn ni’n falch fod yr ymdrech hon wedi cael ei chydnabod ar yr indecs hygyrchedd.
“Fel cyngor, rydyn ni bob amser yn gwneud ein gorau i arwain ym maes cynhwysiant digidol, a sicrhau fod y cynnwys yn hawdd i’w ddarllen ac yn ateb anghenion ein cymunedau.”