Datganiad I'r Wasg
Ein Lle, Ein Dyfodol: Trawsnewidiad Diwylliannol ar y Ffordd i Gastell-nedd Port Talbot
Mae tair strategaeth ddeinamig newydd wedi’u lansio a fydd gyda’i gilydd yn ceisio cyflawni’r nod o fuddsoddi mewn diwylliant a threftadaeth er budd pobl leol, ac ar yr un pryd beri fod Castell-nedd Port Talbot yn gyrchfan a gydnabyddir yn genedlaethol i ymwelwyr erbyn 2030.
Cafodd Strategaeth Ddiwylliant, Strategaeth Dreftadaeth a Chynllun Rheoli Cyrchfan Castell-nedd Port Talbot eu datgelu’n swyddogol mewn digwyddiad lansio yn Neuadd Gwyn Castell-nedd nos Fawrth 16 Gorffennaf, 2024.
Yn ystod y digwyddiad, a gyflwynwyd gan y cyflwynydd teledu, awdur ac Athro Cysylltiol mewn Hanes yn Ysgol Ddiwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe, Dr Alex Langlands, cyhoeddwyd y cynhelir ‘Gŵyl Gomedi Stand-yp Dros Dde Cymru’ sy’n bwriadu taenu ymdeimlad braf drwy ein cymunedau yn yr hydref.
Yn ogystal â chynnal tair sioe yn ein prif theatrau (Neuadd Gwyn, Theatr y Dywysoges Frenhinol a Chanolfan Gelfyddydau Pontardawe), bydd yr ŵyl yn digwydd yng nghymunedau ein cymoedd hefyd, gyda sioeau mewn lleoliadau llai o faint fel canolfannau cymunedol, clybiau chwaraeon a thafarndai.
Mae'r digrifwyr Milton Jones, Kiri Pritchard McLean a Bennett Arron o Bort Talbot ynghyd â Paul James o Gastell-nedd, oll wedi’u cadarnhau i gymryd rhan.
Mynychwyd y digwyddiad lansio ar gyfer y casgliad o strategaethau newydd gan dros 70 o westeion gan gynnwys cynrychiolwyr cymunedol ac aelodau o grwpiau celfyddydol a threftadaeth lleol ynghyd â sefydliadau partner a sefydliadau ariannu, gan gynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
Yn ôl y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae’r lansiad hwn yn alwad i arfogi – rydyn ni eisiau gweithio gyda gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a’r sector cyhoeddus a phreifat ehangach i gyflawni ein huchelgais cyfun, i ddatblygu cynnig diwylliant, treftadaeth, chwaraeon a chelfyddydau hygyrch o ansawdd uchel yn yr ardal.
“Er y bydd y cyngor yn gweithio’n galed i ddenu cyllid a darparu’r fframwaith strategol, bydd hyn yn ymdrech gan dîm, heb os, a gobeithiwn yn fawr fod ein cymunedau lleol yn cael eu grymuso i chwarae’u rhan hefyd.”