Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Wythnos Dwristiaeth Cymru: Calon Ddramatig Cymru yn dathlu llwyddiant yr ymgyrch

Mae’r wythnos hon [15 – 19 Gorffennaf] yn nodi Wythnos Dwristiaeth Cymru, ac mae Calon Ddramatig Cymru’n cyhoeddi’r cerrig milltir allweddol a gyrhaeddwyd yn ei ymgyrch i ddenu mwy o ymwelwyr i aros dros nos yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Derek Davies

Nod ymgyrch Calon Ddramatig Cymru yw denu mwy o dwristiaid domestig i’r rhanbarth a gynrychiolir ganddi, sef pum dyffryn a chwm Castell-nedd Port Talbot, ei pharciau gwledig, glan môr, afonydd a threfi.


Gyda diolch i gyllid oddi wrth Lywodraeth y DU drwy gyfrwng y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF), mae’r ymgyrch wedi cyfrannu at godi proffil yr ardal drwy greu mwy o sylw yn y cyfryngau ac ar sianelau digidol. Y targed gwreiddiol oedd cyrraedd at 250,000 o bobl drwy waith hyrwyddo ar lein ac oddi ar lein, ond erbyn hyn mae ymgyrch dwristiaeth Calon Ddramatig Cymru wedi cyrraedd dros 2.4 miliwn o bobl yn barod.


Mae’r ymgyrch, sy’n cynnwys ffilmiau byrion i arddangos y gwrthgyferbyniadau dramatig a’r gemau cudd sydd yn y rhanbarth, law yn llaw ag ymweliadau cyfryngol â’r ardal a hysbysebu digidol tactegol a dargedwyd, wedi llwyddo i godi proffil Castell-nedd Port Talbot yn llwyddiannus drwy ddangos yr ystod eang iawn o weithgareddau twristaidd sydd ar gael yno.


Yn ôl Karleigh Davies, Rheolwr Economi Ymwelwyr Cyngor Castell-nedd Port Talbot: 
 

“Ers rhai blynyddoedd, cafodd Castell-nedd Port Talbot ei gamddeall, ac ni chafodd y gydnabyddiaeth haeddiannol am y profiadau anhygoel a’r dirwedd ddramatig sydd gan yr ardal i’w chynnig i ymwelwyr. Gyda’r ymgyrch hwn, rydyn ni’n dangos sut y gall ein tirwedd eiconig o wrthgyferbyniadau gynnig maes chwarae antur i ymwelwyr sy’n ceisio gwyliau llesol yn llawn gweithgaredd, neu ddihangfa ddiwylliannol.


Mae’r canlyniadau’n llafar, ac rydyn ni wrth ein bodd i allu parhau i hybu’r ardal er mwyn helpu mwy o ymwelwyr i ddarganfod ein gemau cudd. Mae Castell-nedd Port Talbot wir yn cynnig microcosm o dwristiaeth Cymru, gyda’i arfordir, mynydd-dir, parciau gwledig, bywyd gwyllt, trefi deniadol a safleoedd treftadaeth ddiwylliannol. Edrychwn ymlaen at groesawu mwy o ymwelwyr i ddarganfod ein hardal.”


Daw’r cyhoeddiad hwn wedi i’r Cyngor lansio Cynllun Strategaeth Ddiwylliant, Strategaeth Dreftadaeth a Rheoli Cyrchfannau Castell-nedd Port Talbot – y cyfan wedi’u datblygu o ganlyniad i ymgysylltu helaeth â chymunedau, rhanddeiliaid a phartneriaid. Y gobaith yw y bydd y cynlluniau’n darparu trawsnewidiad diwylliannol yng Nghastell-nedd  Port Talbot erbyn 2030 drwy gyfrwng buddsoddiad a gweithio mewn partneriaeth i ddarparu amcanion diwylliannol, treftadaeth a thwristiaeth preswylwyr yr ardal hon.


Meddai’r Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant:  

“Rydyn ni’n falch iawn o rannu’r newyddion fod ein hymgyrch dwristiaeth yn darparu canlyniadau rhagorol ac yn peri fod mwy o ymwelwyr yn ymwybodol o’n sir hardd.


Mae twristiaeth gynaliadwy’n dod â manteision mawr i’n hardal, gan helpu i gefnogi busnesau lleol, a galluogi ein cymunedau i ffynnu. Drwy ddenu mwy o ymwelwyr i Gastell-nedd Port Talbot, rydyn ni hefyd yn cefnogi strategaeth dwristiaeth ehangach Croeso Cymru i annog taenu ymwelwyr drwy Gymru gyfan, am y gallwn ni roi lle i ymwelwyr sy’n dod am y dydd, ac sy’n aros dros nos sy’n ceisio’r ‘llwybrau cefn’ yn hytrach na llecynnau twristiaeth mwy prysur Cymru.


Edrychaf ymlaen at weld sut mae’r ymgyrch yn mynd i barhau i dyfu, ac rwy’n hyderus y bydd ein rhanddeiliaid a’n cymunedau’n ein cefnogi ni wrth i. ni lansio ein strategaethau arfaethedig ar gyfer trawsnewidiad diwylliannol.”


I gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch, ewch i https://dramaticheart.wales/?lang=cy 


Nodiadau i olygyddion: 
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 
I gael mwy o wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a sut mae’n cael ei defnyddio yng Nghastell-nedd Port Talbot e-bostiwch spfnpt@npt.gov.uk. 
I gael mwy o wybodaeth am y stori newyddion hon, cysylltwch os gwelwch yn dda â Hannah Evans yn reTHINK PR & Marketing ar 01792 460200 neu e-bostiwch Hannah@rethinkprm.com

hannwch hyn ar: