Dogfen
Hysbysiad Preifatrwydd - Gwasanaethau Parcio
- Drwy ddarparu'ch gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).
- Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:
- Ar gyfer gweinyddu hawlenni parcio
- Ar gyfer Prosesu Rhybuddion Hysbysiadau o Dâl Cosb
- Hwyluso talu ffioedd parcio ceir drwy ffyrdd di-arian
- Fel rheolwr data, mae'n ofynnol i'r cyngor, o dan y GDPR, eich hysbysu o ba rai o "Amodau Prosesu Data" Erthygl 6 y GDPR y mae'n dibynnu arnynt i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon ein bod yn dibynnu ar y ddau amod canlynol o Erthygl 6:
- "Mae prosesu'r data'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn destun iddi". (Erthygl 6(1)(c) GDPR y DU).
- "Mae'r prosesu data'n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i'r rheolwr.” (Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU).
- Gallwn rannu'ch data personol yn ddiogel â'r trydydd partïon canlynol (h.y. pobl/cyrff/endidau y tu allan i'r cyngor) yn unol â'r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda'r trydydd partïon hynny
- Chipside Limited ar gyfer creu hawlenni a phrosesu rhybuddion Hysbysiadau o Dâl Cosb
- Y DVLA am fanylion ceidwaid Hysbysiadau o Dâl Cosb heb eu talu ar ôl 28 niwrnod o'u cyflwyno
- International Parking Systems ar gyfer taliadau di-arian o fewn ein meysydd parcio
- Y Ganolfan Gorfodi Traffig am adennill Hysbysiadau o Dâl Cosb heb eu talu
- Y Tribiwnlys Cosbau Traffig am apeliadau yn erbyn Hysbysiadau o Dâl Cosb
- Andrew James Enforcement Ltd am adennill Hysbysiadau o Dâl Cosb heb eu talu
- Excel Civil Enforcement Ltd am adennill Hysbysiadau o Dâl Cosb heb eu talu
- Marston (Holdings) Ltd am adennill Hysbysiadau o Dâl Cosb heb eu talu
- Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir oddi wrthych yn cael ei chadw gan y cyngor am gyfnod o:
- Cylch bywyd Hysbysiad o Dâl Cosb
- Ugain mlynedd ar gyfer Staff y Cyngor sy'n ddeiliaid hawlen neu nes bod aelod o staff yn gadael cyflogaeth y Cyngor
- Blwyddyn ar gyfer hawlenni a ddelir gan aelodau o'r cyhoedd
- Sylwer bod gofyn i ni gasglu data personol penodol dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath, gall eich methiant i roi'r wybodaeth honno i ni arwain at anallu'r cyngor i ddarparu gwasanaeth i chi a/neu gallai'ch gwneud yn agored i achosion cyfreithiol
- Byddem eich hysbysu bod gennych yr hawl, o dan Erthygl 21 GDPR y DU, i wrthwynebu i'r awdurdod ar unrhyw adeg am y ffaith ein bod yn prosesu'ch data personol at ddibenion cynnal tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol
- Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd. Bydd holl waith prosesu'ch data gennym ni yn cael ei wneud yn Ardal Economaidd Ewropeaidd y Deyrnas Unedig neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd
- Ni fydd y cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd
- Sylwer, o dan GDPR y DU, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:
- Yr hawl i gael mynediad i'w data personol a gedwir gan reolwr data
- Yr hawl i gywiro data anghywir gan reolwr data
- Yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig)
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (o dan amgylchiadau cyfyngedig penodol)
- Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol
- Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i reolwr data arall)
- Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'n defnydd o'ch data personol, rydych am gael mynediad i’r data neu os ydych am wneud cwyn ynglŷn â phrosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, Port Talbot, SA13 1PJ.
- Os byddwch yn gwneud cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r Cyngor (gweler 11 uchod) a'ch bod yn anfodlon ag ymateb y Cyngor, mae gennych hawl i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir cael manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth