Pwy ydym ni
Mae Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) yn Asiant sy’n gweithio ar ran Is-adran Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru yn Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, a reolir o dan lywodraethiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Rydym yn gyfrifol am reoli, cynnal a gwella’r rhwydwaith ffyrdd strategol yn Ne Cymru sy’n cynnwys 900 cilomedr o gefnffyrdd a thraffyrdd a’i hasedau cysylltiedig. Mae ardal yr Asiant yn cwmpasu bron pob ardal weinyddol awdurdodau lleol o'r Hafren i Sir Benfro
Ble rydym ni
Mae pawb sy'n gweithio yn SWTRA, o'r rhai sy'n dylunio ein prosiectau ffyrdd i'r rhai sy'n patrolio ein ffyrdd, yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu Gweinidogion Cymru i gyflawni eu nodau a'u huchelgeisiau ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol yn Ne Cymru.
Mae ein gweithlu amrywiol yn adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn meithrin diwylliant cynhwysol drwy gefnogi ein rhwydweithiau cyflogeion cynyddol.
Gweld holl swyddi SWTRA
There are no South Wales Trunk Road Agent (SWTRA) vacancies at this time