Seibiant byr i blant
Beth yw datganiad 'seibiant byr?
Darperir y datganiad seibiant byr hwn ar gyfer teuluoedd sy'n byw yn ardal Castell-nedd Port Talbot sydd â phlentyn anabl rhwng 0 a 18 oed. Mae'r datganiad hwn yn darparu ystod o wybodaeth fel bod teuluoedd yn gwybod pa seibiannau byr sydd ar gael yn ardal Castell-nedd Port Talbot, unrhyw feini prawf ar gyfer cymhwyso a sut y caiff yr ystod o wasanaethau lleol eu cynllunio i ddiwallu anghenion teuluoedd
Beth yw 'seibiant byr?
Efallai fod llawer o rieni a gofalwyr wedi clywed am seibiannau tymor byr neu seibiant. Defnyddir y ddau derm hyn yn aml, ond gallant olygu'r un peth. Mae seibiannau byr yn caniatáu i rieni a gofalwyr gael seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu.
Yn ogystal â seibiannau byr sy'n rhoi seibiant o ofalu i rieni, maent hefyd yn rhoi cyfleoedd i blant anabl fwynhau gweithgareddau cymdeithasol a hamdden, cael hwyl, cymdeithasu a gwneud ffrindiau. Gall seibiannau byr hefyd helpu'r plentyn a'r person ifanc i ddatblygu ystod o sgiliau annibyniaeth y tu allan i gartref y teulu.
Gan gydnabod ystod eang o anghenion plant anabl a'u teuluoedd, mae tair lefel o wasanaethau seibiant byr:
Haen 1: Cyffredinol
Mae gwasanaethau seibiant byr cyffredinol ar gael i bob plentyn a pherson ifanc; nid oes angen asesiad gan weithiwr cymdeithasol. Gall atgyfeiriadau gael eu gwneud yn uniongyrchol gan riant i'r gwasanaeth (hunangyfeirio). Mae enghreifftiau'n cynnwys clybiau ar ôl ysgol, clybiau chwaraeon, cadetiaid a chynlluniau chwarae.
Haen 2: Wedi'i Dargedu
Mae gwasanaethau seibiant byr wedi'u targedu ar gyfer plant a theuluoedd y mae angen cymorth arnynt i gael mynediad at wasanaethau cyffredinol, gwasanaethau ataliol neu lefelau mwy dwys o gymorth. Efallai y bydd angen asesiad gan weithiwr cymdeithasol i gael mynediad at rai o'r gwasanaethau hyn. Mae enghreifftiau'n cynnwys y cynllun chwaraeon anabledd a chynlluniau chwarae sy'n gweithredu o sefydliadau cymunedol, canolfannau hamdden a chanolfannau arbenigol. Fel arfer, mae'r staff sy'n darparu'r gwasanaethau seibiant byr hyn wedi'u targedu wedi derbyn hyfforddiant penodol i gefnogi plant a phobl ifanc anabl.
Haen 3: Arbenigol
Gwasanaethau yn y gymuned yw gwasanaethau seibiant byr arbenigol sy'n darparu cymorth arbenigol i blant a phobl ifanc anabl. Mae angen asesiad gan weithiwr cymdeithasol i gael gafael ar y cymorth hwn. Mae enghreifftiau'n cynnwys cynlluniau chwarae arbenigol, gwasanaethau sy'n cynnig gweithgareddau grŵp neu unigol arbenigol, seibiannau byr dros nos a thaliadau uniongyrchol.
Haen 4: Arbenigwr Dwys
Mae gwasanaethau seibiant byr arbenigol dwys ar gyfer plant a phobl ifanc anabl sy'n byw oddi cartref, naill ai yn yr ysbyty, mewn cartrefi preswyl i blant, gofal maeth neu yn y ddalfa. Mae'n ofynnol i weithiwr cymdeithasol neu ymarferydd meddygol ymgynghorol (h.y. seiciatrydd) gael gafael ar y cymorth hwn. Mae enghreifftiau'n cynnwys uned seiciatrig arbenigol, cartref preswyl plant a darpariaeth gofal maeth.
Pa seibiannau byr sydd ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot?
Mae nifer o wahanol fathau o seibiannau byr ar gael yn lleol. Isod ceir tabl o'r ystod o wasanaethau seibiant byr lleol a chyngor ar sut i gael gafael ar y gwasanaethau hyn.
Math o Wasanaeth | Enghraifft o wasanaeth | Mynediad at wasanaeth |
---|---|---|
Cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau'r ysgol | Cynlluniau chwarae prif ffrwd sydd ar gael i bob plentyn. | Gall teuluoedd atgyfeirio eu hunain i'r cynlluniau chwarae hyn. |
Cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau'r ysgol |
Cynlluniau chwarae arbenigol sy'n rhedeg drwy wyliau'r ysgol ac sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant anabl. |
Mae angen gweithiwr cymdeithasol arnoch i gael mynediad at rai cynlluniau chwarae arbenigol. Efallai y bydd angen asesiad i nodi a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi neu'ch plentyn. |
Clybiau chwarae/gweithgareddau gyda'r nos a thros y penwythnos | Clwb gweithgareddau lleol lle mae amrywiaeth o weithgareddau'n cael eu darparu. |
Gall teuluoedd gysylltu â'r clybiau hyn yn uniongyrchol. Mae gwybodaeth am weithgareddau lleol hefyd ar gael ar wefan Gwybodaeth i Deuluoedd. |
Clybiau chwarae/gweithgareddau gyda'r nos a thros y penwythnos | Clybiau chwarae a gweithgareddau arbenigol sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant anabl. |
Mae angen gweithiwr cymdeithasol arnoch i gael mynediad at rai cynlluniau chwarae a chlybiau gweithgareddau. Efallai y bydd angen asesiad i nodi a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi neu'ch plentyn. |
Clybiau Chwaraeon | Cynlluniau chwaraeon prif ffrwd sydd ar gael i bob plentyn. |
Gall teuluoedd gysylltu â'r clybiau hyn yn uniongyrchol. |
Clybiau Chwaraeon |
Mae gan Gastell-nedd Port Talbot gydlynydd chwaraeon anabledd sy'n rhedeg amrywiaeth o glybiau chwaraeon ar gyfer plant anabl yn yr ardal leol. Gallant hefyd gynghori ar y gefnogaeth sydd ar gael i blant anabl gael mynediad at glybiau prif ffrwd. |
Gall teuluoedd gysylltu â'r clybiau hyn yn uniongyrchol |
Seibiannau Byr dros nos | Mae Park House yn gyfleuster seibiant byr dros nos sy'n cynnig cymorth dros nos i blant anabl. |
Mae angen gweithiwr cymdeithasol arnoch i gael seibiannau byr dros nos. Efallai y bydd angen asesiad i nodi a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi neu'ch plentyn. |
Seibiannau Byr dros nos | Mae Cyswllt Teulu yn wasanaeth seibiannau byr dros nos sy'n cynnig cymorth dros nos i blant anabl mewn cartref Gofalwr Cyswllt Teulu cymeradwy. |
Mae angen gweithiwr cymdeithasol arnoch i gael seibiannau byr dros nos. Efallai y bydd angen asesiad i nodi a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi neu'ch plentyn. |
Taliadau Uniongyrchol | Gellir defnyddio taliad uniongyrchol i gyflogi cynorthwy-ydd personol gan riant a daw'r rhiant yn gyflogwr. |
Mae angen gweithiwr cymdeithasol arnoch i gael taliadau uniongyrchol. Efallai y bydd angen asesiad i nodi a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi neu'ch plentyn. Os nodir angen, mae gennych yr opsiwn o ddewis derbyn taliadau uniongyrchol i ddiwallu'r angen hwnnw a dod yn gyflogwr. |
Cymorth unigol a chymorth grŵp | Gallwn gomisiynu gwasanaethau gan ddarparwyr lleol a chenedlaethol lle gellir mynd â phlant allan ar sail un i un neu fynychu gweithgaredd grŵp sy'n dibynnu ar eu hanghenion. |
Mae angen gweithiwr cymdeithasol arnoch i gael gafael ar y cymorth hwn. Efallai y bydd angen asesiad i nodi a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi neu'ch plentyn. |
Meini prawf ar gyfer y tîm anabledd gofal plant
Er mwyn manteisio ar rai seibiannau byr, mae angen 'asesiad Plant a Phobl Ifanc' wedi'i gwblhau ar gyfer y Tîm Anabledd Gofal Plant. I fod yn gymwys i gael asesiad, mae'r meini prawf isod yn berthnasol:
Plant a phobl ifanc o'u genedigaeth hyd at ddeunaw oed os oes ganddynt nam corfforol neu synhwyraidd, neu os oes ganddynt anableddau dysgu ac
- Os yw eu hanabledd yn golygu eu bod yn cael llawer mwy o anhawster gyda datblygiad corfforol, deallusol, cymdeithasol, emosiynol neu addysgol na'r rhan fwyaf o blant o'r un oedran.
- Os yw'r anawsterau hyn yn golygu bod angen asesiad gan weithiwr cymdeithasol/cynllunio gofal ar y plentyn gan y Tîm Anabledd Gofal Plant i:-
- a) wneud defnydd effeithiol o gyfleusterau o fath sydd ar gael yn gyffredinol i blant o'r un oedran
- b) Hyrwyddo gweithrediad bob dydd gartref ac yn y gymuned
- c) Cael gafael ar gymorth rhyngasiantaethol arbenigol i sicrhau'r cynnydd corfforol, cymdeithasol, emosiynol ac addysgol mwyaf posib.
Anabledd Corfforol
- Anawsterau difrifol gyda phob swyddogaeth sylfaenol fel bod angen cymorth un-i-un ar gyfer yr holl anghenion gofal.
- Anhawster corfforol neu salwch cronig sy'n arwain at nam hirdymor o ran iechyd neu ddatblygiad, hyd yn oed gyda darpariaeth cyffuriau, deiet neu gymhorthion.
Anabledd Dysgu
- Yn gofyn am oruchwyliaeth gyson ac yn dibynnu ar eraill hyd yn oed ar gyfer anghenion gofal sylfaenol o ddydd i ddydd. Yn seiliedig yn fras ar lefelau mesuredig o weithrediad cymdeithasol a hanes cymdeithasol. .
- Nam dysgu parhaol sy'n ddigon i atal y plentyn/person ifanc rhag cyflawni rolau/gweithgareddau y deellir yn gyffredinol eu bod o fewn gallu plant o'r oedran, cefndir cymdeithasol a diwylliannol hwnnw.
Nam ar y golwg
- Yn ddall, heb unrhyw olwg defnyddiol, yn rhannol ddall, gydag anawsterau golwg sy'n ddigonol i amharu ar weithgareddau a/neu ddatblygiad bob dydd er gwaethaf y defnydd o gymhorthion.
Nam ar y Clyw
- Ychydig neu ddim clyw. Anawsterau clyw hyd yn oed gyda chymhorthion clyw. Yn cael, neu'n debygol o gael anhawster parhaus gydag iaith a chyfathrebu sy'n ddigonol i amharu ar ddatblygiad.
Anhwylder y Sbectrwm Awtistig
- Mae anhwylder y sbectrwm awtistig (ASD) yn anhwylder ddatblygu sy'n effeithio ar gyfathrebu ac ymddygiad. Gellir diagnosio awtistiaeth ar unrhyw oedran
Barn rhieni a phobl ifanc
Sut bydd seibiannau byr yn cael eu hadolygu yng Nghastell-nedd Port Talbot?
Mae'n bwysig bod seibiannau byr yn diwallu anghenion rhieni a phlant a phobl ifanc yn ein hardal leol.
Rydym yn adolygu ein gwasanaethau'n gyson drwy gynnal adolygiadau pan fydd plant a phobl ifanc yn cael seibiannau byr yn dilyn asesiad. Rydym hefyd yn ymgynghori'n flynyddol â phlant, pobl ifanc, teuluoedd a rhanddeiliaid amrywiol i adolygu ansawdd ac ystod y gwasanaethau seibiant byr yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae'n bwysig ein bod yn cael amrywiaeth eang o safbwyntiau ac adborth a ddefnyddir i lunio'r seibiannau byr a fydd yn cael eu cynnig yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae rhieni wedi dweud wrthym fod y seibiannau byr yn gymorth mawr iddynt am eu bod yn rhoi seibiant iddynt o'u rôl gofalu.
Mae'r adborth rydym wedi'i dderbyn gan blant a phobl ifanc yn dweud wrthym eu bod yn mwynhau treulio amser gyda ffrindiau a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau.
Manylion cyswllt
Sut ydw i'n cael rhagor o wybodaeth am drefnu seibiant byr?
Bydd angen rhywfaint o wybodaeth arnom am eich amgylchiadau. Gallwn gwrdd â chi i drafod eich sefyllfa a pha fath o gymorth rydych chi'n meddwl sydd ei angen arnoch chi, eich plant a'ch teulu.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Tîm Anabledd Gofal Plant
Sut i wneud atgyfeiriad
Gall rhieni sy'n dymuno derbyn asesiad plant a phobl ifanc gysylltu â'r Tîm Un Pwynt Cyswllt (SPOC) yn: Un Pwynt Cyswllt.
Gall Gweithwyr Proffesiynol wneud atgyfeiriadau ysgrifenedig gyda chaniatâd rhieni sy'n gweithio gyda'r teulu, i'r Tîm Un Pwynt Cyswllt yn:
Gallwch lawrlwytho ffurflen atgyfeirio drwy glicio yma a'i dychwelyd i spoc@npt.gov.uk
Cysylltiadau Defnyddiol
- Cynhwysiad Disgyblion NPT
Gwefan: i wefan Cynhwysaid Disgyblion NPT - Cludiant Anghenion Addysgol Arbennig NPT
Ffôn: (01639) 763812
Gwefan: ewch i wefan Anghenion Addysgol Arbbennig NPT - Bathodynnau Glas
Ffôn: (01639) 686868, E-bost: fcs@npt.gov.uk
Gwefan: ewch i wefan Bathodynnau Glas - Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg
- Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
Tonna Hospital
Tonna
Neath
SA11 3LX
Y Weithdrefn Gwynion/Apeliadau
Os bydd person sy'n defnyddio gwasanaethau neu ei ofalwr yn dymuno herio unrhyw benderfyniadau a wnaed, dylai gyfeirio at weithdrefn apeliadau'r cyngor. Mae'r broses hon yn cynnwys llwybr apêl clir ac amserlen ar gyfer ymdrin ag apeliadau.
Dylai unigolion ac/neu eu gofalwyr dderbyn gwybodaeth sy'n esbonio sut i gwyno am y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot, sydd ar gael mewn fformatau hygyrch ac ieithoedd gwahanol. Gellir cyrchu'r daflen a manylion y weithdrefn gwynion ar-lein hefyd drwy wefan y cyngor. Y rhif ffôn dynodedig ar gyfer Adran Gwynion y Gwasanaethau Oedolion yw: