Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Nadolig yng nghanol eich tref

Darganfyddwch beth sy'n digwydd yng nghanol eich tref y Nadolig hwn

Digwyddiadau Nadolig i ddod

A wnaethoch chi golli Cic gyntaf Nadolig Castell-nedd ar 22 Tachwedd neu ddathliadau Canolfan Siopa Aberafan ar y 23ain?

Peidiwch â phoeni! Mae ysbryd y gwyliau yn dal yn ei anterth gyda digon o ddigwyddiadau Nadolig cyffrous ar y gweill!

Llwybr Hwyl yr Ŵyl

NPT Festive Trail graphic

Manylion y digwyddiad

Dyddiad: 28 Tachwedd - 14 Rhagfyr 2024
Lleoliad: Canol trefi Castell-nedd, Port Talbot a Phontardawe
Tâl am fynediad: Yn rhad ac am ddim

Helpwch Noel, ein corrach cyfeillgar, i ddatrys cliwiau Nadolig a dod o hyd i'w ffordd yn ôl i Begwn y Gogledd! 

Uchafbwyntiau'r digwyddiad

  • 3 Llwybr Hwyl yr Ŵyl i'w dilyn
  • Gwobrau i'w hennil
  • Danteithion arbennig ar gyfer y 400 cais cyntaf

Santa's Grotto: A Yellow Car Adventure

Groto Siôn Corn Canolfan Siopa Aberafan

Manylion y Digwyddiad

Dyddiad: Bob dydd Llun, dydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn yn y cyfnod cyn y Nadolig, yn ogystal â dydd Sul 22 Rhagfyr.
Amserau’r bore: 10.30yb - 12.30yp
Amserau’r prynhawn: 1.30yp - 5.30yp
Lleoliad: Canolfan Siopa Aberafan
Cost mynediad: £6.00 (yn cynnwys anrheg am ddim) – does dim angen cadw lle