Enwi a rhifo strydoedd
Croeso i Wasanaeth Enwi a Rhifo Strydoedd y Cyngor. Mae'r Cyngor yn gyfrifol am enwi pob ffordd ac enwi/rhifo pob eiddo preswyl ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Adeiladau Newydd
Wrth adeiladu adeilad newydd a chyn bod unrhyw un yn byw ynddo, bydd rhaid i eiddo dderbyn cyfeiriad swyddogol gan yr awdurdod lleol. Yna, caiff cyfeiriadau eu cofrestru gyda'r Post Brenhinol, a fydd yn cyflwyno cod post newydd. Yna, caiff yr wybodaeth hon ei throsglwyddo i adrannau eraill yn y cyngor yn ogystal â chwmnïau cyfleustodau, gwasanaethau argyfwng a'r Gofrestrfa Tir. Bydd y Post Brenhinol hefyd yn anfon yr wybodaeth hon ymlaen at gwmnïau preifat fel siopau'r stryd fawr, banciau a chwmnïau yswiriant ayb.
Os na fydd eich eiddo'n cael ei gofrestru, ni fydd y Post Brenhinol yn ei gydnabod. Bydd hyn yn arwain at anawsterau wrth ddod o hyd i'ch eiddo, ac ar ben hynny, gallai fod yn anodd cofrestru eich cyfeiriad gyda banciau, siopau a sefydliadau credyd ayb.
Taliadau am y gwasanaethau hyn
Math o Gais | Tâl |
---|---|
Enwi/rhifo un plot |
£58.70 |
Enwi/Rhifo hyd at 5 plot |
£58.70 yn ogystal â £29.35 fesul plot |
Enwi/Rhifo 6 phlot neu fwy |
£86.91 yn ogystal ag £29.35 fesul plot |
Addasu eiddo yn fflat / Addasu eiddo o fod yn fflat |
£58.70 yn ogystal â £29.35 fesul fflat |
Ail-rifo datblygiad (ar ôl hysbysu) |
£112.88 yn ogystal â £29.35 fesul plot |
Llythyr gan y cyfreithwyr i gadarnhau cyfeiriad |
£45.15 |
Cais i newid neu ychwanegu enw/rhif at y cyfeiriad presennol |
£45.15 |
Cais i dynnu cyfeiriad o gofnodion |
£45.15 |
Mae costau lluosog yn seiliedig ar faint y datblygiad gorffenedig ac yn amherthnasol i ddyddiad cwblhau eiddo unigol
Nid yw'r taliadau uchod yn destun TAW
Sieciau i'w gwneud yn daladwy i 'Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot/ERS neu (CBSCNPT/ERS)' a rhaid atodi ffurflen gais.
Gallwch dalu'r ffioedd enwi a rhifo stryd ar gyfer eiddo sengl a lluosog ar-lein.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â:
Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Iau 8am - 5pm (ac eithrio Gwyliau Banc)