Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Cyfle i gael dweud eich dweud ar ddyfodol Castell-nedd Port Talbot

28 Tachwedd 2024

RHODDIR cyfle nawr i drigolion helpu i lywio dyfodol Castell-nedd Port Talbot drwy gael dweud eu dweud ar ddogfen strategaeth allweddol a fydd yn arwain datblygiadau ledled y fwrdeistref sirol am y 15 mlynedd nesaf.

Cyfle i gael dweud eich dweud ar ddyfodol Castell-nedd Port Talbot

Yn dilyn cymeradwyaeth gan sesiwn lawn o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar 27 Tachwedd 2024, gall preswylwyr roi eu barn ar Strategaeth Newydd a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) (2023-2038) o hanner dydd, 12 Rhagfyr 2024, tan hanner dydd, 6 Chwefror 2025.

Enw'r Strategaeth a Ffefrir (cam ymgynghori cyhoeddus ffurfiol cyntaf y CDLlN) yw Helpu adferiad economaidd a gwerthfawrogi ein cyfleoedd unigryw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae'n cyflwyno lefel twf a ffefrir sy'n ystyried effeithiau'r cyfnod pontio economaidd sy'n mynd rhagddo yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dilyn y newidiadau yn Tata Steel ym Mhort Talbot a'r newid cyffredinol tuag at ddatgarboneiddio a swyddi gwyrdd newydd.

Mae'r strategaeth yn cynllunio ar gyfer lefel optimistaidd o fuddsoddiad newydd, gan gydnabod potensial dynodiad y Porthladd Rhydd Celtaidd a safle Castell-nedd Port Talbot yn yr Ardal Dwf Genedlaethol a ddiffinnir yn Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040. 

Caiff y Strategaeth a Ffefrir gyffredinol hon ei hategu gan ddwy ardal strategaeth: Ardal Cyfleoedd y Cymoedd sy'n cynnwys Cwm Afan, Cwm Nedd, Cwm Dulais, Cwm Tawe, Cwm Aman a Phontardawe; a'r Coridor Arfordirol a'r Ardal Dwf Genedlaethol sy'n cynnwys Castell-nedd Port Talbot. 

Dros gyfnod y cynllun, bydd y strategaeth yn darparu ar gyfer 4,176 o gartrefi newydd (278 y flwyddyn) gan helpu i greu 3,555 o swyddi (237 y flwyddyn) a darparu ar gyfer 57 hectar o dir cyflogaeth.

Mae tystiolaeth a gasglwyd o nifer o ddogfennau ac astudiaethau cefndir wedi llywio cynnwys y Strategaeth a Ffefrir – y mae tair ohonynt yn destun ymgynghoriad ochr yn ochr â dogfen y Strategaeth a Ffefrir, sef: 

Y Gofrestr/Asesiad Safleoedd Ymgeisiol – cronfa ddata o dir y mae tirfeddianwyr neu ddatblygwyr wedi'i gynnig ar gyfer datblygu neu ddiogelu yn y dyfodol, i'w ystyried yn y CDLlN. Mae'r asesiadau'n dangos sut y cafodd penderfyniadau eu gwneud wrth ddewis y safleoedd allweddol mwyaf addas er mwyn cyflawni strategaeth y CDLlN. Mae cyfanswm o 470 o safleoedd wedi cael eu cyflwyno.

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig Interim – sy'n sicrhau y caiff ystyriaethau eu hintegreiddio yn y broses o wneud cynlluniau gan arwain addasiadau i wella manteision amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol y cynllun terfynol.

Adroddiad Sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd – sy'n sicrhau y caiff mesurau diogelu'r amgylchedd eu hintegreiddio wrth wneud penderfyniadau ynghylch cynlluniau, gan ddiogelu bioamrywiaeth a darparu ar gyfer datblygiadau angenrheidiol ar yr un pryd.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd, y Cyngh. Wyndham Griffiths: “Rwy'n gobeithio y bydd cynifer â phosibl o drigolion yn rhoi eu barn ar y strategaeth hanfodol hon.

“Gall cynllunio a darparu ar gyfer cartrefi newydd yn ein bwrdeistref sirol helpu i wneud Castell-nedd Port Talbot yn lle mwy ffyniannus gan y bydd gweithwyr sy'n cael swyddi yma yn gallu byw'n lleol a gwario arian yn lleol.

“Bydd Strategaeth a Ffefrir y CDLlN yn ein helpu i benderfynu pa ddatblygiadau a gaiff eu caniatáu a pha rai na chânt eu caniatáu mewn gwahanol leoliadau, ac yn tynnu sylw at ardaloedd y bydd angen i ni eu diogelu, felly achubwch ar y cyfle i gael dweud eich dweud.”

Mae manylion am sut y gall trigolion gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus i'w gweld ar dudalen we'r CDLl: https://beta.npt.gov.uk/cy/cynllunio-a-rheoli-adeiladu/polisi-cynllunio/

I wneud sylwadau, ewch i'n tudalennau gwe ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd – https://beta.npt.gov.uk/cy/cynllunio-a-rheoli-adeiladu/polisi-cynllunio/cynllun-datblygu-lleol-newydd-2023-2038/. Ewch i dudalen we'r Ymgynghoriad ar y CDLl i weld fersiwn ar-lein o ddogfen ymgynghori'r Strategaeth a Ffefrir, ac i gyflwyno sylwadau ar-lein (https://neath-porttalbot-consult.objective.co.uk/kse/) 

Anfonwch ffurflenni sylwadau atom drwy e-bost / drwy'r post erbyn hanner dydd ar 6 Chwefror 2025. 

Bydd y dogfennau ymgynghori hefyd ar gael i'w gweld yn y lleoliadau canlynol: Canolfan Ddinesig Castell-nedd, Canolfan Ddinesig Port Talbot, The Quays.

Byddwn yn cynnal y sesiynau ymgysylltu / galw heibio canlynol: Ymgysylltu rhithwir / ar-lein – dydd Mawrth 21 Ionawr 2025 – cyflwyniad o 10am tan 12pm (hanner dydd);Llyfrgell Pontardawe – dydd Mercher 22 Ionawr 2025 rhwng 10am ac 1pm.Canolfan Ddinesig Castell-nedd – dydd Mercher 22 Ionawr 2025 rhwng 3pm a 6pm.Llyfrgell Port Talbot – dydd Iau 23 Ionawr 2025 rhwng 9.30am a 12.30pm;  Llyfrgell Glyn-nedd – dydd Iau 23 Ionawr 2025 rhwng 2.30pm a 5.30pm. 

Noder: os bydd pobl am ddod i'r sesiwn ymgysylltu ar-lein, bydd angen iddynt e-bostio ldp@npt.gov.uk erbyn 15 Ionawr 2025 fan bellaf. Nid oes angen trefnu lle ar gyfer y sesiynau eraill – sesiynau galw heibio yw'r rhain.
 

hannwch hyn ar: