Datganiad I'r Wasg
Mynegwch eich barn o ran helpu i greu dyfodol hirdymor ar gyfer Camlesi Castell-nedd a Thennant
28 Tachwedd 2024
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau £113,850 oddi wrth fenter Mannau Treftadaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer cam datblygu prosiect Canal Connections/ Cysylltiadau Camlesi.
Er nad y cyngor sy’n berchen ar y camlesi, mae’n gobeithio meithrin y partneriaethau gwaith fydd angen eu creu er mwyn hwyluso adfywiad yr asedau treftadaeth ac amgylcheddol allweddol hyn er budd ein cymunedau, ein hecosystemau bywyd gwyllt a’n heconomi.
Mae’r cyngor, gan weithio gyda’r ymgynghorwyr AtkinsRéalis, yn datblygu astudiaeth ddichonolrwydd dewisiadau cyflawn er mwyn archwilio defnydd posib ar gyfer Camlesi Castell-nedd a Thennant i’r dyfodol, gan gydnabod eu harwyddocâd a’u treftadaeth unigryw, a’r hyn y gallan nhw ei gynnig i’r bobl a’r cymunedau a geir ar hyd eu glannau.
Bydd yr astudiaeth yn rhan o’r prosiect hirdymor Canal Connections / Cysylltiadau Camlesi, sy’n gweithio tuag at y nod o adfywio’r system gamlesi i’w throi’n ased cymunedol hygyrch ar gyfer hamdden a theithio llesol, ac i’w sefydlu fel cyrchfan dreftadaeth i ymwelwyr sy’n cysylltu cymunedau lleol.
Mae’r camlesi’n galluogi preswylwyr i ailgysylltu â natur a’r cymunedau ar hyd eu glannau, gan gysylltu canol y dref ag ardaloedd yn y cymoedd. Ceir cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y llecynnau hyn i iechyd a llesiant pobl, am y gall y dyfrffyrdd hyn gael eu gwella i ddarparu llecynnau glas, glân ar gyfer gwneud gweithgareddau hamdden lleol ble mae bioamrywiaeth gyfoethog yn ffynnu.
Gall eich syniadau chi helpu’r cyngor i ychwanegu manylder i’r prif opsiynau mae AtkinsRéalis y eu harchwilio, ac fe allent ddod â syniadau hollol newydd o ran adfer ac adfywio camlesi Castell-nedd a Thennant er budd pobl, lleoedd a’r amgylchedd.
I ddal gafael ar y syniadau hyn, bydd ymgynghoriad camlesi’n cael ei agor ar 27 Tachwedd, tan 8 Ionawr 2025, gan roi cyfle i bawb leisio barn ar gyfer y dyfodol.
Gellir dod o hyd i ddolen i'r ymgynghoriad yma: Camlesi Castell-nedd a Thenant - Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Bydd modd i bobl rannu’u barn a gweld cynlluniau sy’n cynnig dewisiadau mewn gweithdy cymunedol a gynhelir ar 4 Rhagfyr 2024 o 2pm tan 6.30pm ym Maes Ymarfer Golff Aberdulais.
Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Rydyn ni’n ddiolchgar am gael y cyllid hwn sy’n dod o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer y prosiect hwn, sy’n bwysig iawn ar gyfer ein cymunedau, bywyd gwyllt a’r economi leol, ac mae camlesi’n cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’n llesiant hefyd.
“Hoffwn annog cynifer o bobl â phosib i gymryd rhan drwy ddweud eu dweud a lleisio barn yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad.”