Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Croesewir pecyn cymorth gwerth £13m a 'popeth yn barod' ar gyfer Celtic Free Port a fydd yn creu swyddi

27 Tachwedd 2024

Mae Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi croesawu pecyn cymorth gwerth miliynau o bunnau ar gyfer y rhai y mae'r newidiadau yn Tata Steel UK wedi effeithio arnynt a cham “ar agor ar gyfer busnes” newydd ym mhrosiect trawsnewidiol y Porthladd Rhydd Celtaidd.

Harbourside a Dociau Port Talbot

Wrth annerch cyfarfod llawn o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ddydd Mercher, 27 Tachwedd 2024, dywedodd yr Arweinydd, y Cyngh. Steve Hunt, a'r Prif Weithredwr, Frances O’Brien, y byddai cymeradwyo safleoedd datblygu'r Porthladd Rhydd, a fydd yn cynnig cymhellion treth i fewnfuddsoddwyr, yn rhoi hwb enfawr i economïau Castell-nedd Port Talbot a Chymru.

Dywedodd Frances O’Brien, a ddechreuodd yn ei rôl yn ddiweddar: “Mae wedi bod yn 10 diwrnod prysur ers i mi ddechrau yma ond rwy'n falch o allu rhannu y gallwn gyhoeddi yr wythnos hon fod y Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor ar gyfer busnes, ac rwy'n credu mai dim ond dechrau'r tro ar fyd i'n hardal ni yw hyn.”

Ynglŷn ag uchelgeisiau'r Porthladd Rhydd Celtaidd i gyflenwi a chefnogi'r diwydiant ynni gwynt arnofiol ar y môr, ychwanegodd: “Mae ynni gwynt arnofiol ar y môr yn cynnig cyfle unwaith mewn oes i greu miloedd o swyddi ac ehangu ein heconomi, ac rwy'n falch o ddweud bod ein drysau nawr ar agor i bawb sydd am ymuno â ni ar y daith hon.”

Dywedodd y Cynghorydd Hunt: "Gan adeiladu ar yr hyn y mae'r Prif Weithredwr Francis O'Brien wedi'i ddweud y prynhawn yma, mae heddiw yn nodi eiliad ganolog i Gastell-nedd Port Talbot gyda'r cyfleoedd y mae'r Porthladd Rhydd Celtaidd yn eu cynnig. Rydyn ni'n dechrau cyfnod newydd, yn barod i adfywio'r rhanbarth- bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu pan fydd gennym ni."

Caiff digwyddiad swyddogol ei gynnal yr wythnos nesaf i lansio “Safleoedd Treth” y Porthladd Rhydd Celtaidd lle y caiff rhagor o fanylion eu rhyddhau, a bydd partneriaid y Porthladd Rhydd a swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn bresennol.

Gwnaeth Arweinydd y Cyngor hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyngor am y cyhoeddiad a wnaed yng nghyfarfod diwethaf Bwrdd Pontio Tata Steel UK, a sefydlwyd i gefnogi'r bobl, y busnesau a'r cymunedau y mae cau ffwrneisi chwyth gwaith dur Port Talbot wedi effeithio arnynt.

Dywedodd: Gwnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, ddatgelu Cronfa Dechrau, Twf a Chadernid Busnesau sy'n werth £13m. Mae'r fenter hon yn helpu cyn-gyflogeion a chyn-gontractwyr Tata Steel UK ac aelodau o'u teulu agos i ddechrau eu busnesau, gan gynnig grantiau gwerth hyd at £10,000.

“Hefyd, mae'r Gronfa Twf Busnesau yn helpu busnesau lleol i ehangu drwy gynnig grantiau sy'n amrywio o £25,000 i £250,000. Mae'r drydedd elfen, sef y Gronfa Cadernid Busnesau, yn helpu busnesau y mae'r newidiadau wedi cael effaith anuniongyrchol arnynt, fel siopau a chaffis lleol, drwy gynnig grantiau gwerth rhwng £2,500 a £25,000.

“Rydyn ni'n cydweithio â Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflwyno'r cronfeydd hyn yn gyflym. Caiff rhagor o wybodaeth am sut i gael gafael ar y cyllid hwn ei chyhoeddi maes o law.

“Rwy'n frwd o blaid y pecynnau cyllid hyn, sydd â'r nod o roi hwb i fusnesau newydd a busnesau sy'n bodoli eisoes yn ein cymuned. Mae'r gwaith dur wedi bod yn rhan annatod o'n heconomi ers dros ganrif ac mae'r newidiadau nid yn unig yn effeithio ar weithwyr Tata Steel UK ond yn ymestyn i fusnesau cysylltiedig eraill hefyd.

“Ers i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ymrwymo i roi cyfweliadau i gyn-gyflogeion Tata Steel UK neu bobl sy'n wynebu colli eu swyddi os byddant yn bodloni ein meini prawf, rydyn ni wedi cael 87 o geisiadau. Mae'r ffigur hwn yn cynnwys achosion lle mae'r un unigolyn wedi gwneud cais am fwy nag un swydd, ond mae'n dal i ddangos ein hymrwymiad i hwyluso newidiadau i'r gweithlu yn ein cymuned.

“Hefyd, gallaf gadarnhau bod 10 o'u plith wedi cael cynnig cyflogaeth yn ein sefydliad ni yma yn CBSCNPT.”

 

 

 

 

 

hannwch hyn ar: