Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Codi dros £13,000 i achosion da gan gronfa elusennol maer

22 Tachwedd 2024

CYFANSWM yr arian a godwyd ar gyfer Cronfa Elusennol Maer Castell-nedd Port Talbot ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2023/24, pan oedd y Cynghorydd Chris Williams yn Faer a Debbie Rees yn Faeres, oedd £13,697.75.

Yn y llun mae (o'r chwith i'r dde) cyn Faeres Debbie Rees, Helen Murray MBE (gyda'i wyres Isabella), Michelle Patterson a'r cyn-Faer Chris Williams

Codwyd yr arian drwy gyfrwng sawl digwyddiad maerol yn ystod y flwyddyn ddinesig, gan gynnwys ras lwyddiannus Parc Margam 10k yn amgylchedd trawiadol Parc Gwledig Margam ar 26 Ionawr 2024,

Ddydd Mercher, 20 Tachwedd, 2024, dychwelodd y Cyngh Williams i Barlwr y Maer yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot i gyflwyno sieciau i gynrychiolwyr y ddwy elusen a ddewiswyd ganddo y flwyddyn honno.

Un o’r rheiny oedd Cronfa Harry, elusen a sefydlwyd yn yr Alltwen, Pontardawe, wedi marwolaeth drasig Harry Nye Patterson yn 2011. Nod yr elusen yw helpu pobl a brofodd sefyllfaoedd pan ddigwyddodd marwolaeth ddisymwth.

Oherwydd i wraig y Cyngh Williams farw pan oedd eu merch ond yn wyth oed, mae ef wedi cydnabod fod cefnogaeth gyda phrofedigaeth a chwnsela’n hynod bwysig, ac yn wir bu’n amhrisiadwy i’w ferch yn ystod ei bywyd ifanc, yn ogystal â’i helpu ef ar gyfnod anodd iawn.

Yr ail elusen oedd Hosbis Tŷ Olwen, a leolir yn Ysbyty Treforys, sy’n gwneud cymaint o waith da dros gleifion a theuluoedd pobl sy’n dioddef o ganser a chlefydau eraill sy’n cyfyngu ar eu bywydau.

Mae’r tîm Gofal Lliniarol Arbenigol a leolir yn Nhŷ Olwen yn darparu gwasanaeth i Singleton, Treforys, Castell-nedd Port Talbot ac ysbytai cymunedol yn yr ardal. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth cymunedol i bobl Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Wrth dderbyn y siec ar ran Cronfa Harry, diolchodd mam Harry, Michelle Patterson, oedd yno gyda’r cwnselydd galar a’r hyfforddwr profedigaeth i ysgolion Glenys Benford-Lewis, i bawb oedd wedi cyfrannu a chymryd rhan yn nigwyddiadau Cronfa Elusennol y Maer.

Esboniodd y byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio i alluogi’r elusen o Gwm Tawe i barhau i roi hyfforddiant profedigaeth i athrawon, ysgolion a sefydliadau i blant a phobl ifanc.

Ychwanegodd Michelle: “Rydyn ni’n credu y dylid gwneud mwy i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi colli anwylyn, a byddwn ni’n parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd addysg galar.”

Diolchodd Helen Murray MBE, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Tŷ Olwen, i’r Cyngh Williams, y Faeres Debbie Rees a phawb a gyfrannodd roddion a nawdd i Dŷ Olwen drwy gydol blwyddyn y Cyngh Williams yn y swydd.

Meddai hi: “Bydd yr arian hwn yn ein galluogi i brynu tair cadair drydanol ‘codi a gorffwys’ arbenigol. Byddan nhw’n amhrisiadwy i’n cleifion am y bydd yn eu galluogi i eistedd yn gyffyrddus mas o’r gwely, a derbyn ffisiotherapi ar yr un pryd.”  

hannwch hyn ar: