Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Argymell y dylai'r Cabinet ddiystyru defnyddio adeilad gwag fel Canolfan Frysbennu ar gyfer digartrefedd

17 Hydref 2024

Fel rhan o waith y Cyngor i ystyried ffyrdd posibl o ddefnyddio adeilad gwag Canolfan Gymunedol y Groes ym Mhontardawe yn y dyfodol, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 23 Hydref 2024, a fydd yn argymell diystyru ei ddefnyddio fel Canolfan Frysbennu neu ar gyfer llety dros dro.

Canolfan Traws Gymunedol

Os caiff yr argymhelliad ei gymeradwyo, bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn parhau i ystyried amrywiaeth o opsiynau posibl eraill ar gyfer yr adeilad, gan gynnwys canolfan fusnes neu ffyrdd eraill o'i ddefnyddio sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Dolen - Triage Feasability Assessment.pdf (npt.gov.uk)

 

hannwch hyn ar: