Datganiad I'r Wasg
Rhaglen brysur o ddigwyddiadau’r Cofio yng Nghastell-nedd Port Talbot
17 Hydref 2024
Mae rhaglen brysur o ddigwyddiadau wrthi’n cael ei pharatoi’n derfynol ar gyfer Castell-nedd Port Talbot wrth i ni agosáu at Sul y Cofio (Tachwedd 10) a Diwrnod y Cadoediad (Tachwedd 11) eleni.
Bydd gorymdeithiau traddodiadol Sul y Cofio yng nghanol trefi Castell-nedd a Phort Talbot, wedi’u trefnu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ac ym Mhontardawe eleni, cynhelir gwasanaeth Sul y Cofio yn Eglwys San Pedr yn y dref.
Bydd seremonïau coffa hefyd yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ar draws y fwrdeistref sirol gan gynghorau tref a chymuned a mudiadau gwirfoddol.
Bydd Cyngerdd Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot yn digwydd yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot, ddydd Gwener, 25 Hydref (7pm).
Arweinir y noson boblogaidd hon gan Mal Pope a bydd perfformiadau gan Gôr Valley Rock Voices, Band Cadetiaid Llu Awyr Brenhinol Sgwadron 334 (Castell-nedd), y seren newydd o’r Mwmbwls Madlen Forwood, Band Pibau Dinas Abertawe a Band Lleng Prydeinig Brenhinol Llanelli.
Ddydd Sadwrn 26 Hydref, bydd Diwrnod Gŵyl y Lluoedd Arfog yng Nghanolfan Siopa Aberafan, Port Talbot (tan 5om) a fydd yn cynnwys lansio’r Apêl Pabi Coch lleol a chysegru’r Ardd Goffa.
Cynhelir seremoni codi baner hefyd, a bydd yno stondinau gwybodaeth a cherbydau milwrol i’w gweld.
Mae'r digwyddiadau ar 25 Hydref a 26 Hydref wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Wyndham Griffiths, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Castell-nedd Port Talbot – sy’n gyn-aelod o’r lluoedd arfog ei hun – gymaint o ymroddiad oedd gan y cyngor i gefnogi’r gymuned lluoedd arfog yn lleol.
Meddai ef: “Er iddo gefnogi Digwyddiadau’r Cofio ers cryn amser drwy Swyddfa’r Maer, yn ddiweddar, enillodd y cyngor rôl fel Trefnwyr Digwyddiadau swyddogol, sy’n atgyfnerthu’i ymrwymiad i gofio’r aberth a wnaed gan bawb sydd wedi amddiffyn ein rhyddid a’n ffordd o fyw drwy roi eu bywydau.”
Dywedodd y Cynghorydd Tim Bowen, cyd-Bencampwr y Lluoedd Arfog: "Mae gan y cyngor hwn hanes hir o gefnogi cymuned y lluoedd arfog yn lleol ar ôl cofrestru â Chyfamod y Lluoedd Arfog y mae wedi addo cydnabod a deall y dylai'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau y buont yn gwasanaethu yn eu rolau Lluoedd Arfog."