Datganiad I'r Wasg
Grym y Gors! Disgyblion yn troi’u haddysg amgylcheddol yn gân
10 Hydref 2024
MAE DISGYBLION ysgol gynradd sydd wedi ymgysylltu â phrosiect i adfer mawndir hynafol a bywyd gwyllt traddodiadol i rannau o gymoedd Afan a Rhondda wedi cyfansoddi a pherfformio cân ddeniadol am y gwaith pwysig.
Fe’i cyhoeddwyd ar YouTube a gellir gweld y ffilm yma: https://bit.ly/PowerofthePeatbogs https://youtu.be/UxMSSuSeUjk
Ers dechrau Prosiect Partneriaeth Mawndiroedd Coll, a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Cenedlaethol, ym mis Gorffennaf 2021, mae disgyblion o Flaenau Dyffryn Afan a Rhondda Cynon Taf wedi derbyn profiadau dysgu awyr agored mewn adfer mawndiroedd, bioamrywiaeth a newid hinsawdd.
Mewn gweithdy cyfansoddi cân a ddarparwyd gan Swyddog Cymunedol ac Addysg y prosiect, Sarah Reed, fe fu disgyblion o Ysgolion Cynradd Cymer Afan, Pen Afan, Croeserw, a Glyncorrwg (CnPT) ac YGG Ynyswen ac Ysgol Gynradd Penyrenglyn (RhCT) yn myfyrio ar themâu allweddol o’r prosiect er mwyn cyfansoddi geiriau.
Rhoddwyd cefnogaeth gan y busnes addysg cerdd Hot Jam, wnaeth ddarparu trac cefndirol o gordiau a dynnwyd ynghyd gan y disgyblion. Yna perfformiodd y disgyblion eu cân dros fideo cefndirol o luniau oedd yn dogfennu’u hamser gyda’r prosiect.
Mae corsydd a thiroedd mawn mewn cyflwr da’n darparu cynefin gwlyptir, ac mae ganddynt y potensial i storio carbon a’i gloi. Gall mawndiroedd helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd presennol o ganlyniad.
Cafodd Prosiect Partneriaeth Mawndiroedd Coll gyfle i adfer tir a fu gynt yn fforest fasnachol ym Mlaenau Cymoedd Afan a Rhondda Fawr, er mwyn ailsefydlu cynefinoedd corsiog a fu unwaith yn nodwedd treftadaeth naturiol o bwys yn yr ucheldiroedd, ond sydd bellach, oherwydd sawl newid mewn defnydd o’r tir, ddim mor amlwg ag y buont ar un adeg. Bydd y bartneriaeth rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Abertawe a Coed Lleol, wedi adfer rhyw 250 hectar o dir yn ardal y prosiect erbyn diwedd y prosiect ym mis Chwefror 2025.
Dywedodd Sarah Reed: “Drwy rannu’r gân, gobaith y prosiect yw dathlu ymwneud yr ysgolion â’r prosiect a diolch i ddisgyblion am y brwdfrydedd a ddangoswyd ganddynt wrth iddyn nhw weithio gyda ni.
“Mae’r gân yn esbonio pam fod corsydd mawn yn bwysig, o ran bod yn gynefin ac er mwyn storio carbon, gyda’r ‘grym’ i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd presennol.
“Drwy rannu’r gân, ein gobaith yw tynnu sylw at bwysigrwydd corsydd mawn a chodi proffil y gwaith o adfer y mawndiroedd ym mlaenau Cymoedd Afan a Rhondda Fawr, y mae Prosiect Partneriaeth Mawndiroedd Coll wedi bod yn ei wneud, gydag arian oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Mae addysgu pobl ifanc ac ymgysylltu â nhw ynghylch manteision ymgymryd ag adfer mawndiroedd mewn ardaloedd mynyddig wedi bod yn un o ddeilliannau llwyddiannus y prosiect, a bydd y gân hon, heb os, yn rhoi rhywbeth iddyn nhw a’u teuluoedd gofio. Go dda bawb fu’n rhan o’r cyfan.”