Datganiad I'r Wasg
Llwyddiant i Ddysgwyr o Wcráin sy'n Ceisio Noddfa yn Ysgolion Castell-nedd Port Talbot
07 Hydref 2024
Mae dau ddysgwr o Wcráin wedi cael canlyniadau TGAU arbennig er iddynt ffoi o'u cartref yn Wcráin oherwydd y rhyfel, a gorfod addasu i fywyd yn y DU.
Gwnaeth Yelyzaveta Kalianova (Lisa) o Ysgol Cwm Brombil a Danylo Vildanov o Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth Joseff Sant ragori yn eu harholiadau TGAU yn ddiweddar.
Enillodd Lisa gyfanswm campus o 11 o raddau TGAU, tra cafodd Danylo gyfanswm o 10, a sicrhaodd y ddau fyfyriwr Ragoriaeth mewn Mathemateg Ychwanegol. Cafodd y canlyniadau rhyfeddol hyn eu cyflawni gyda chymorth gan staff ysgol, Cynorthwywyr Addysgu Dwyieithog o Wcráin, a Gwasanaeth Dysgwyr Agored i Niwed Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sydd wedi cyflawni rôl allweddol er mwyn eu helpu i wneud y gorau o'u potensial.
Mae eu cyflawniadau'n arbennig o ryfeddol o ystyried mai llai na dwy flynedd yn ôl y cyrhaeddodd y ddau ddysgwr Gastell-nedd Port Talbot ar ôl ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Cafodd teuluoedd Lisa a Danylo gynnig noddfa a chyfle i gael cartref newydd diogel yng Nghastell-nedd Port Talbot o dan Gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru. Er gwaethaf yr heriau, mae'r ddau ddysgwr wedi ffynnu yn academaidd ac yn bersonol.
Mae Lisa'n treulio ei hamser rhydd yn canu, yn chwarae'r Bandura (offeryn cenedlaethol Wcráin), ac yn dawnsio gwerin i godi ymwybyddiaeth ac arian er mwyn prynu cyflenwadau meddygol ar gyfer Wcráin. Mae Danylo'n helpu ei fam i bobi cacennau er mwyn codi arian i Wcráin. Gwnaeth y ddau fyfyriwr hefyd gymryd rhan yn nathliadau Wythnos Ffoaduriaid Castell-nedd Port Talbot ym mis Mehefin 2024, gan ddefnyddio'r thema “Ein Cartref” i fynegi eu diolch i'w hathrawon, eu hysgolion, a Chyngor Castell-nedd Port Talbot am y croeso cynnes.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jenkins, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar: “Rydyn ni'n anhygoel o falch o Lisa a Danylo, ac eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, am eu cyflawniadau arbennig. Mae eu gwydnwch a'u hymroddiad wir yn ysbrydoliaeth.
“Mae'r cymorth a roddodd ein hysgolion a'r Gwasanaeth Dysgwyr Agored i Niwed wedi bod yn hollbwysig er mwyn eu helpu i lwyddo. Rydyn ni'n ymrwymedig i sicrhau bod ein holl ddysgwyr, waeth beth fo'u cefndir, yn cael cyfle i ffynnu yn ein hysgolion.”