Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Celtic Leisure i barhau i gynnal gwasanaethau hamdden cyngor am bum mlynedd arall

03 Hydref 2024

Mae Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cytuno ar estyniad o bum mlynedd ar gytundeb Celtic Leisure i gynnal gwasanaethau hamdden yn y fwrdeistref sirol.

Celtic Leisure i barhau i gynnal gwasanaethau hamdden cyngor am bum mlynedd arall

Penderfynodd y cyngor yn 2022 i ddod â gwasanaethau hamdden yn ôl dan adain y cyngor yn llwyr, ond diystyrwyd y symudiad bellach am y gallai’r costau ychwanegol fod wedi arwain at doriadau ar draws rhannau eraill o’r cyngor, a hyd yn oed arwain at gau rhai o’r lleoliadau gwasanaethau hamdden.

Mae undebau llafur bellach wedi cydnabod nad yw hi’n fforddiadwy dod â’r gwaith yn ôl dan adain uniongyrchol y cyngor.

Yn eu cyfarfod ar yr ail o Hydref 2024, gofynnwyd i aelodau’r Cabinet ystyried y tri opsiwn canlynol:

  • Bwrw ymlaen gyda dod â Celtic Leisure dan adain uniongyrchol y cyngor o 1 Ebrill 2025.
  • Cytuno i estyn cytundeb Celtic Leisure am bum mlynedd o 1 Ebrill 2025 o dan y telerau ac amodau presennol.
  • Cytuno i estyn cytundeb Celtic Leisure am bum mlynedd o 1 Ebrill 2025 gyda chyllid ychwanegol i hwyluso telerau ac amodau diwygiedig y staff yn ôl y cais gan Undebau Llafur pe bai bwrdd Celtic Leisure o’r farn y dylent gytuno.

Cymeradwyodd aelodau'r Cabinet yr ail opsiwn - estyniad contract pum mlynedd o 1 Ebrill 2025 ar delerau ac amodau cyfredol. Gwnaeth swyddogion y cyngor yn glir y byddai telerau ac amodau diwygiedig i weithwyr Celtic Leisure yn fater i'r bwrdd rheoli Celtic Leisure nid y cyngor ei benderfynu ond cytunwyd y byddai'r cyngor yn parhau i ymgysylltu â Celtic Leisure a'r Undebau Llafur i geisio helpu i wella telerau ac amodau staff yn ystod y contract, pan fydd yn fforddiadwy.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dwristiaeth a Lles Natur, y Cynghorydd Cen Phillips: “Fe wnaeth Grwpiau Gweithio a sefydlwyd i archwilio’r mater hwn edrych ar ffyrdd o sicrhau pontio diogel ar gyfer cwsmeriaid a staff, ac ar fodd o geisio gostwng costau’r trosglwyddo, a adroddwyd cyn hyn i fod o gwmpas £1.5m y flwyddyn.

“Gyda gwasgfa gynyddol ar gyllideb y cyngor, yn enwedig gyda chwyddiant ar un adeg yn cyrraedd ffigurau dwbl, a setliad Llywodraeth Cymru ymhell islaw lefel chwyddiant, gohiriwyd dyddiad gweithredu’r pontio, yn y gobaith y byddai’r hinsawdd ariannol yn sefydlogi.

“Fel mae pawb ohonom yn ymwybodol, fe wnaeth y darlun ariannol barhau i waethygu ac o ganlyniad, gwthiwyd dyddiad gweithredu’r cynllun yn ôl unwaith eto.

“Gyda rhagolygon setliad ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyngor yn edrych yn eithriadol o heriol, mae pob maes gwasanaeth yn y cyngor yn cael cais ar hyn o bryd i asesu pa arbedion ac effeithiolrwydd ariannol allan nhw eu gwneud ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26.

“Teimlwyd y byddai ychwanegu costau sylweddol ar gyfer ein gwasanaethau hamdden dan do yn ychwanegu at y pwysau ar y gyllideb refeniw, ac y byddai hynny yn ei dro’n arwain yn anorfod at doriadau dyfnach ar draws gweddill y cyngor a gwasanaethau hamdden dan do eu hunain. Fe allai hyn fod wedi cynnwys lleihad mewn oriau gweithredu, lleihad mewn lefelau staff, neu mewn rhai achosion, ystyried cau rhai lleoliadau.

"Mae'r penderfyniad i ymestyn cytundeb Celtic Leisure wedi ei wneud fel bod modd diogelu gwasanaethau a swyddi ar draws y cyngor, tra'n sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr lleol."

Mae penderfyniad y Cabinet yn amodol ar gyfnod galw i mewn statudol o dridiau.

 

hannwch hyn ar: