Datganiad I'r Wasg
Marwolaeth y Cynghorydd Marcia Spooner – datganiad
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
03 Tachwedd 2023
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt y bydd colled enfawr ar ôl y Cynghorydd Marcia Spooner a fu farw ddydd Sul (Hydref 29, 2023).
Yn ôl y Cynghorydd Hunt: “Gyda braw a thristwch y clywais am farwolaeth ein ffrind a’n cydweithwraig y Cynghorydd Marcia Spooner.
“Fel y gwyddoch, roedd hi’n hyrwyddwr balch o’r ward yr oedd hi’n ei gynrychioli, Rhos, ac o’r iaith Gymraeg.
“Bydd bwlch mawr ar ei hôl, a hoffwn estyn fy nghydymdeimlad o’r galon i deulu Marcia ar yr adeg hynod anodd hwn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Llewelyn, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae cyfeillion a chydweithwyr Marcia wedi cael eu chwalu gan ei cholled sydyn, ac mae ein meddyliau gyda’i theulu.
“Roedd Marcia yn gynghorydd cydwybodol ac yn aelod gwerthfawr iawn i grŵp Plaid Cymru a’r cyngor i gyd.
“Bydd ei chymuned yn Rhos, ble buodd hi’n byw am lawer o flynyddoedd, yn gweld ei cholli’n enfawr, a bydd coffa da iawn amdani yn Ystalyfera, ble cafodd hi ei magu.”