Datganiad I'r Wasg
Rhaglen gyllid gwerth £1.7m i adfywio cymoedd a phentrefi Castell-nedd Port Talbot bellach ar agor
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
01 Tachwedd 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd cynigion am brosiectau ar gyfer gwario’i Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi (VVPF).
Ariennir yr £1.7m VVPF yn rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) Llywodraeth y DU ac mae’n rhan o wariant £27.3m o gyllid SPF a glustnodwyd ar gyfer Castell-nedd Port Talbot o dros y tair blynedd nesaf.
Nod y VVPF yw mynd i’r afael â’r dirywiad mewn cymunedau gwledig ledled Castell-nedd Port Talbot, yn enwedig y lleihad mewn galw am siopau stryd fawr a chynnydd mewn galw am dai, prosiectau hamdden a chynlluniau teithio llesol.
Ymysg yr ardaloedd a dargedir mae Cwm Nedd, Dyffryn Afan, Cwm Tawe, Blaenau Cwm Aman a Chwm Dulais.
Bwriad y VVPF yw cael effaith gadarnhaol ar faterion allweddol i’r fwrdeistref sirol, gan gynnwys creu swyddi, iechyd a llesiant, balchder mewn lle a thwf economaidd.
Dyddiad cau mynegi diddordeb yw 31 Rhagfyr 2023, a rhaid o bob prosiect gael ei gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2024. Gall ymgeiswyr wneud cais am hyd at 70% o gyfanswm cymwys eu costau prosiect, hyd at uchafswm o £250,000.
Gallai cynigion am brosiectau gynnwys:
- Grantiau eiddo masnachol
- Unedau preswyl (troi o ddefnydd masnachol i breswyl)
- Prosiectau isadeiledd gwyrdd a bioamrywiaeth
- Prosiectau i wella’r parth cyhoeddus
- Caffael strategol
- Cynlluniau marchnadoedd canol trefi a blaenau siopau
- Trefi digidol
- Teithio llesol
- Cyfleusterau hamdden a chwaraeon
Gall darpar ymgeiswyr ddod o hyd i fwy o wybodaeth, gan gynnwys Canllawiau i Ymgeiswyr VVPF a Ffurflen Mynegi Diddordeb ar y dudalen we hon – UK Shared Prosperity Fund: Open Call for Applications to the Valleys and Villages Prosperity Fund (VVPF) – Neath Port Talbot Council (npt.gov.uk)
I gael sgwrs anffurfiol am unrhyw gynnig prosiect, e-bostiwch regeneration@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 686073.
Sefydlwyd y VVPF fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i dargedu ardaloedd yng Nghastell-nedd Port Talbot nad ydyn nhw’n dod o dan gategorïau cyllido eraill, fel menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, dyweder.
Meddai’r Cynghorydd
Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Bydd y VVPF yn pontio’r bwlch cyllido ar draws y fwrdeistref sirol, fel nad yw pobl yn colli’r cyfle i gael cyllid.
“Bydd yn gwneud cyfraniad mawr er mwyn gwella cymoedd a phentrefi Castell-nedd Port Talbot, gan eu gwneud yn llefydd gwell i fyw a gweithio ynddyn nhw. Bydd hefyd yn ateb y galw am unedau masnachol a phreswyl mewn ardaloedd pan fo galw amdanynt.
“Bydd y VVPF yn cefnogi darparu Nodau Llesiant y cyngor yn uniongyrchol hefyd, yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dan nawdd y cynllun hwn, bydd cymunedau ein cymoedd yn elwa o welliannau a wneir i’w pentrefi, a fydd yn helpu gyda chreu swyddi lleol newydd, a gwell canfyddiad am le.”
Bydd darpar ymgeiswyr a fyddai’n gymwys i wneud cais am arian grant ar gyfer eu cynigion prosiect yn cynnwys perchnogion eiddo masnachol gwag, tirfeddianwyr, cynghorau tref a chymuned, awdurdodau lleol, parthau gwella busnesau a busnesau cymdeithasol.