Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Rhaid i ddyn sy'n tipio gwastraff yn anghyfreithlon heb dalu Hysbysiad Cosb Benodedig dalu bron i £1,300

31 Hydref 2023

Mae dyn o Bort Talbot wnaeth dipio gwastraff gwyrdd yn anghyfreithlon ger canol y dref, ac yna fethu â thalu Hysbysiad Cosb Benodedig wedi cael ei ddedfrydu bellach i dalu dirwy, costau erlyn, a gordal effaith ar ddioddefwr, cyfanswm o £1,288.38.

Dyn wnaeth dipio gwastraff gwyrdd yn anghyfreithlon ac yna fethu â thalu Hysbysiad Cosb Benodedig yn cael ei ddedfrydu gan Lys i dalu bron i £1,300

Clywodd Llys Ynadon Abertawe fod David Edward Schwonek, 58, o Willow Grove, Baglan, Port Talbot, wedi cael ei weld yn gadael gwastraff gwyrdd ar dir ar Heol Glan-yr-afon, Port Talbot, ar 15 Awst 2022, gan dyst a dynnodd luniau a fideo o’r digwyddiad.

Llwyddodd Swyddogion Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot i olrhain cyfeiriad cartref Mr Schwonek, drwy gyfrwng rhif cofrestru ei gar, a welwyd yn y ffotograffau.

Cyfaddefodd Mr Schwonek wrth swyddogion gorfodi a ymwelodd â’i gartref ei fod ef wedi taflu’r gwastraff yn anghyfreithlon, ond ‘nad oedd e’n meddwl y byddai problem gyda chael gwared ar wastraff gwyrdd’ am nad oedd arwyddion yno.

Derbyniodd Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 am y drosedd o adael gwastraff a reolir mewn modd anghyfreithlon; yn groes i Adran 33 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990; ond er gwaethaf anfon llythyron ato i’w atgoffa, ni thalwyd yr Hysbysiad Cosb Benodedig.

Methodd Mr Schwonek â mynychu gwrandawiad yn Llys Ynadon Abertawe ar 5 Hydref 2023, a chyhoeddwyd gwarant o’r Fainc ar gyfer ei arestio. Cyflawnodd yr heddlu’r warant yn ddiweddarach, a daethpwyd ag ef gerbron y Llys ar 19 Hydref 2023, pan blediodd yn euog i adael y gwastraff mewn modd anghyfreithlon.

Dywedodd y Barnwr Rhanbarth wrth y Llys, wrth ddedfrydu, ei fod wedi ystyried statws ddi-drosedd y diffinydd cyn hyn, natur gyfyng u drosedd, a’i ble euog cynnar.

Meddai’r Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun: “Mae’r achos hwn yn enghraifft o beth all ddigwydd os anwybyddir Hysbysiadau Cosb Benodedig ac mae’n dangos hefyd mor ddifrifol y mae’r llysoedd yn trin tipio anghyfreithlon, sy’n bla ar ein cymunedau.”

Dyfarnwyd Mr Schwonek i dalu dirwy o £440, costau’r erlyniad o £672.38, a gordal effaith ar ddioddefwr o £176, cyfanswm £1,288.38, o fewn 56 niwrnod..

 

hannwch hyn ar: