Datganiad I'r Wasg
Datganiad Aweinydd y Cyngor i Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot 19 Hydref 2023
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
19 Hydref 2023
Cyfarfu y Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot am y tro cyntaf ar ddydd Iau, Hydref 19 ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot lle cytunwyd ar y ffyrdd o weithio, cylch gorchwyl y bwrdd ac aelodaeth y bwrdd.
Prynhawn da unwaith eto,
Dwi’n meddwl taw’r pwynt pwysig cyntaf y dylwn i ei wneud yw mai bach iawn o wybodaeth sydd wedi cael ei rannu gyda’r Cyngor am y fargen fuddsoddi a wnaed rhwng Tata a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
A fyddech chi’n fodlon cymryd yr hyn dwi am ei ddweud y prynhawn yma gan gadw hynny mewn cof.
Mae dur o bwysigrwydd enfawr i Bort Talbot. Mae hefyd yn arwyddocaol iawn ar gyfer yr economi ehangach a diogelwch cenedlaethol. Dwi’n siŵr fod pawb yn yr ystafell yn deall hynny.
Mae’r Cyngor o’r farn fod yn rhaid i ddur barhau i chwarae rhan ganolog mewn datblygu ein heconomi i’r dyfodol.
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Tata a phartneriaid eraill ers blynyddoedd lawer bellach, drwy gyfrwng y Fargen Ddinesig a Chlwstwr Diwydiannol De Cymru. Rydyn ni wedi cydweithio ar waith arloesol newydd gyda’r nod o sicrhau dyfodol gwneud dur a’i holl ddiwydiannau cysylltiedig yma ym Mhort Talbot.
Ein cred ni yw bod cyfleoedd newydd a phwysig yn genedlaethol yn y farchnad o’n blaenau, fel y diwydiant ynni gwynt arnofiol.
Mae meddwl y gallen ni weithgynhyrchu dur gwyrdd fan yn, ar y safle hwn, all gael ei droi’n dyrbinau a fydd yn cynhyrchu ynni gwyrdd ar raddfa fawr yn y Môr Celtaidd a mannau eraill yn rhywbeth sy’n ein cyffroi ni’n fawr.
Edrychwn ymlaen at weld sut fydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn sicrhau cyfleoedd presennol yn y farchnad. Ein gobaith ni yw gweld marchnadoedd newydd yn cael eu hagor, all ddod â swyddi cynaliadwy, sy’n talu’n dda, yn eu sgil, yma i Bort Talbot ac i’r gadwyn gyflenwi ehangach.
Am y rhesymau hyn oll, dwi’n croesawu’r newyddion y bydd buddsoddi’n digwydd er mwyn pontio gwneud dur o’r technolegau presennol i rywbeth gwyrddach, amgen.
Ond yr hyn sydd hefyd yn glir yw y bydd effaith ar swyddi, busnesau, a’n cymuned ehangach yn ystod y cyfnod pontio hwn.
Ar adeg pan fo llawer o bobl ar draws ein cymunedau’n profi caledi, rhaid i bawb ohonom weithio gyda’n gilydd i leihau’r effeithiau hynny.
Rhaid i ni hefyd ymrwymo i gynllun hirdymor a fydd yn gosod sail gryfach a mwy cynaliadwy i’n heconomi.
Gallaf eich sicrhau y bydd y Cyngor yn chwarae rhan lawn a hyfyw wrth helpu i beri i hyn ddigwydd.
Ond bydd yn golygu fod pawb ohonom ni yn yr ystafell hon yn cydweithio i gyflawni cyfnod pontio cyfiawn – yn ogystal â’n partneriaid ehangach a’r gymuned ei hun.
Dyna gloi fy sylwadau am y prynhawn, Gadeirydd, am fy mod i’n cydnabod taw dim ond dechrau sgwrs yw hyn heddiw.