Datganiad I'r Wasg
Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
19 Hydref 2023
Cyhoeddwyd Tata Steel gynigion ym mis Medi i fuddsoddi £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU gwerth hyd at £500 miliwn, i alluogi cynhyrchu dur mwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Mae Bwrdd Pontio bellach wedi’i sefydlu i gefnogi’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y newid arfaethedig i symud tuag at wneud dur CO₂ isel.
Cyfarfu y Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot am y tro cyntaf ar ddydd Iau, Hydref 19 ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot lle cytunwyd ar y ffyrdd o weithio, cylch gorchwyl y bwrdd ac aelodaeth y bwrdd. Bydd y cwmni ac Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU yn goruchwylio'r buddsoddiad mewn creu dur CO2 isel ym Mhort Talbot ar wahân.
Bydd gan y Bwrdd Pontio hyd at £100 miliwn i fuddsoddi mewn rhaglenni sgiliau ac adfywio ar gyfer yr ardal leol. Bydd yn canolbwyntio ar:
- Cefnogaeth enbyd i'r bobl, y busnesau a'r cymunedau yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan y newid arfaethedig i symud tuag at ddur CO₂ isel ym Mhort Talbot; a
- Cynllun ar gyfer adfywio lleol a thwf economaidd ar gyfer y degawd nesaf.
David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru fydd yn cadeirio’r Bwrdd Pontio, tra bydd Vaughan Gething, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru a Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, yn ddirprwy gadeiryddion. Mae aelodau'r Bwrdd yn cynnwys Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK; Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK; y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; a Stephen Kinnock, AS dros Aberafan. Mae cynrychiolwyr o'r undebau llafur hefyd yn mynychu.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Pontio ym mis Tachwedd.