Datganiad I'r Wasg
-
Gwybodaeth am gasgliadau sbwriel ac ailgylchu - Gwyliau Banc Calan Mai a'r Coroni27 Ebrill 2023
• Yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 1 Mai 2023 (G?yl Banc Calan Mai) DIM NEWID i'ch gwasanaethau casglu. Cynhelir pob casgliad ar eich diwrnod arferol.
-
Dechrau darparu’r Porthladd Rhydd Celtaidd – un o blith sawl blaenoriaeth i Glymblaid yr Enfys yn 2023/2427 Ebrill 2023
Mae sefydlu cwmni a bwrdd buddsoddi i ddechrau darparu’r Porthladd Rhydd Celtaidd, sy’n addo creu 16,000 o swyddi yn ne orllewin Cymru dros y blynyddoedd nesaf, yn un o blith sawl blaenoriaeth allweddol i Glymblaid yr Enfys Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2023/24.
-
Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi mai Parc Gwledig Margam fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 202525 Ebrill 2023
Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Orendy Parc Margam ddydd Llun 24 Ebrill 2023, cefnogodd gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr o bob cwr o Gastell-nedd Port Talbot wahoddiad i’r Urdd gynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025 ym Mharc Margam.
-
Gwario £2.4m er mwyn gallu defnyddio tai gwag Castell-nedd Port Talbot unwaith eto24 Ebrill 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn taclo ‘melltith’ tai anghyfannedd mewn cymoedd, pentrefi a threfi ledled y fwrdeistref sirol, drwy glustnodi cyfraniad o £240,000 i gynllun gwella tai gwag dan nawdd Llywodraeth Cymru.
-
Peiriannydd sydd wedi ymddeol yn mwynhau helpu eraill yn ei swydd ym maes gofal24 Ebrill 2023
Symudodd Ronald Moffatt, sy’n 64 oed, i Gastell-nedd i ddechrau pennod newydd o’i fywyd.
-
Cyngor yn cofrestru gyda chynllun sy’n ei gwneud hi’n haws i staff wirfoddoli gyda Heddlu De Cymru24 Ebrill 2023
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw’r awdurdod lleol cyntaf yn ardal llu Heddlu De Cymru i gofrestru ar gyfer cynllun Plismona â Chymorth Cyflogwyr sy’n hybu niferoedd yr heddlu, gan beri fod cymunedau’n fwy diogel.
-
Cabinet yn pleidleisio i wrthod cynllun ad-drefnu ysgolion Cwm Tawe20 Ebrill 2023
Mae aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi gwrthod cynnig i adeiladu ysgol cyfrwng Saesneg newydd ym Mhontardawe, a fyddai wedi cymryd lle tair ysgol gynradd yng Ngwm Tawe.
-
Ymgynghoriad ar Ddyfodol Castell Margam18 Ebrill 2023
Gofynnir i bobl roi eu barn ar ffyrdd o ddefnyddio Castell Margam a'i adeiladau cysylltiedig yn y dyfodol mewn arddangosfa ryngweithiol a gaiff ei chynnal yn yr adeilad eiconig o ddydd Mercher 19 Ebrill tan ddydd Mercher 26 Ebrill 2023.
-
Amser penderfynu ynghylch chynllun ad-drefnu ysgolion Cwm Tawe12 Ebrill 2023
Bydd penderfyniad ynghylch cynlluniau i agor ysgol cyfrwng Saesneg newydd ym Mhontardawe yn lle tair ysgol gynradd yng Nghwm Tawe yn cael ei wneud gan aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar 19 Ebrill 2023.
-
Cyfarwyddwr cwmni yn cael gorchymyn i dalu £9000 o iawndal a dedfryd ohiriedig am dwyll a dwyn05 Ebrill 2023
Yn dilyn ymchwiliad gan adran Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot, mae Nicholas REES, sef cyfarwyddwr cwmni tirlunio o Resolfen o'r enw “Total Landscaping Solutions Ltd”, a fanteisiodd ar ddefnyddwyr agored i niwed ac a wnaeth honiadau anwir, wedi cael dedfryd o wyth mis o garchar, sydd wedi'i gohirio am ddwy flynedd, a gorchymyn i dalu £9000 o iawndal yn Llys y Goron Abertawe am droseddau yn ymwneud â thwyll a dwyn.
- Cyntaf⠀
- Blaenorol⠀
- Tudalen 1
- ...
- Tudalen 29
- Tudalen 30 o 58
- Tudalen 31
- ...
- Tudalen 58
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf